Y mab di-enw
- Cyhoeddwyd
Mae elusen Sands yn ymweld â Chymru ar 15 Mehefin gyda neges bwysig - i beidio anghofio am fabanod sydd wedi'u geni yn farw.
Trwy Brydain mae 15 o fabanod yn cael eu geni yn farw-anedig bob dydd ac i nodi hynny yn ystod mis Mehefin mae Sands yn hongian 15 gwisg babi ar lein ddillad gan obeithio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Bu Cymru Fyw yn siarad ag un fam sydd wedi mynd drwy'r profiad erchyll hwn:
Yr hunllef waethaf
"Mae'n brofiad dychrynllyd," meddai Amelia Davies o Aberystwyth. Cafodd ei hail fab ei eni yn farw-anedig yn ystod Awst 1983.
"Es i'r ysbyty ddydd Iau, gan feddwl nad oedd pethau'n iawn ond 'naeth y meddygon ddweud fod popeth iawn ac erbyn i fi fynd nôl dydd Sadwrn roedd y babi wedi marw.
"Fuon nhw'n hir yn dweud wrthai. Dyna oedd yr hunllef waethaf. Roedd rhaid geni'r babi wedyn fel petai e dal yn fyw - 'nathon nhw wrthod rhoi llawdriniaeth.
"Ro'dd hi'n broses deg awr i eni babi a oedd wedi marw. Ar ddiwedd y cyfan fe ofynnon nhw i fi a oedden i am weld y babi - allen i ddim edrych arno fe ond ar waelod y gwely weles i ben bach melyn - ro'dd e wedi marw ers oriau, falle ers y dydd Iau.
"Wedyn pan o'n i'n barod i fwyta ro'dd rhaid i fi gymysgu â phobl oedd wedi cael plant - ro'dd y cyfan yn erchyll.
"Ddoth 'na rywun rownd hefyd yn gofyn a oeddwn i eisiau llun o'r plentyn ond gwrthod 'nes i. Ro'n i mewn stâd ofnadwy.
"Yn sicr, does dim digon wedi cael ei wneud i baratoi teuluoedd," ychwanegodd Amelia. "Ro'n i yn mynd adre' i wynebu llond airing cupboard o ddillad babi.
"Pan es i gofrestru'r farwolaeth do'dd dim enw 'da ni - ond ateb y cofrestrydd oedd 'Baby Gilbert (dyna fy nghyfenw ar y pryd) will do'.
'Dim cofnod o'r un bach'
"Does gen i ddim tystysgrif na dim byd - dim cofnod bod yr un bach wedi bod. Ma' rhywun yn edrych 'mlan am naw mis ac yna mae'r cyfan yn cael ei dynnu oddi wrthoch.
"Dyw'r drefn ddim yn rhoi dim gwerth ar fabis marw-anedig. Petai'r babi wedi marw yn ddiwrnod oed mi fuasen wedi cael tystysgrif i gofnodi ei farwolaeth ac i gofnodi ei fodolaeth.
"Does 'na ddim proses chwaith i addysgu'r cyhoedd. Yn aml mae pawb am anghofio, ddim moyn siarad am y peth neu mae eraill yn dweud pethau fel 'Paid poeni, ti'n ddigon ifanc i gael un arall' - ond nid dyna'r pwynt, dyw plentyn arall ddim yn cymryd lle yr un bach sydd wedi marw.
"Do mi gathon ni fab arall ac ro'dd Rhys 'da ni yn barod - ond fyddai wastad yn dweud mai Rhys yw'r mab hynaf a Michael yw'r mab ieuengaf - rwy' wedi cael tri o fechgyn, fydd dim yn newid hynny a dyw'r ieuengaf ddim yn substitute i'r un a gollwyd."
Yr ysbyty a drefnodd gladdu ail fab Amelia ond roedd yn gryn sioc iddi ddarllen mewn papur newydd yn ddiweddarach bod nifer o'r babanod a anwyd yn yr ysbyty y bu hi, sef Ysbyty Brenhinol Gwent, wedi cael eu llosgi mewn llosgydd yn yr ysbyty rhwng 1983 ac 1984.
"Ro'n i eisiau gwybod beth oedd wedi digwydd i fy mab bach i wedi iddo farw ond roeddwn i'n ofni'r gwaetha'," meddai Amelia.
"Ond bron i chwarter canrif ar ôl ei enedigaeth ffindies i mas ei fod wedi cael ei gladdu mewn bedd i fabis marw-anedig yn eglwys Sant Gwynllyw yng Nghasnewydd.
"Ro'dd hynny yn rhyddhad ac ers hynny rwyf wedi rhoi croes ar y bedd ac wedi mynd i roi blodau ar y bedd.
"Cyn hyn ro'n i'n teimlo'n euog - teimlo bo' fi ddim wedi 'neud dim i'r un bach. Dim enw, dim bedd."
Mae Amelia hefyd yn gwau dillad i elusen o'r enw George's Legacy - elusen sydd wedi'i sefydlu gan fam o Preston a gollodd fabi.
"Dwi wedi cael cysur mawr," meddai Amelia yn gwau dillad bach addas i deuluoedd roi babanod bach marw-anedig ynddyn nhw.
"Yn sicr mae hyn yn rhoi urddas i fabi marw-anedig - ac mae hynny yn hollbwysig. Mae'r gwau hefyd wedi fy helpu i - teimlo bo' fi'n gallu 'neud rhywbeth.
"Mae cael diwrnodau fel heddiw yn help - mae unrhyw ymwybyddiaeth yn help. Does neb yn gwybod beth yw poen y fam sydd wedi rhoi genedigaeth i fabi newydd-anedig."