Brexit: Barn y pleidiau wrth i'r trafodaethau ddechrau
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r trafodaethau Brexit ddechrau o ddifrif, mae canlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn awgrymu bydd yn rhaid i Theresa May ystyried safbwyntiau'r pleidiau eraill - yn ogystal â'i phlaid ei hun - er mwyn osgoi gwrthdaro difrifol yn San Steffan.
Mae yna gytuno cynyddol ymhlith y pleidiau mawr fod angen derbyn canlyniad y refferendwm flwyddyn yn ôl.
Ond bydd yr anghytuno ffyrnig yn parhau ar ddyfodol masnach a mewnfudo yn enwedig.
Beth yw blaenoriaethau pleidiau felly?
Yn ffodus mae'r pleidiau newydd ddweud wrthon ni - trwy gyfrwng eu maniffestos ar gyfer Etholiad 2017.
Er mwyn atal unrhyw anghyfleustra diangen i'n darllenwyr, fe wnaeth Cymru Fyw grynhoi'r cyfan ar eich cyfer.
Y Ceidwadwyr
Mae'r cyfeiriad yn glir. "Brexit yw Brexit" meddai Mrs May.
Ond gan fod llywodraeth Theresa May yn dechrau cyfnod cymhleth o drafod, mae manylion gwir ystyr hynny efallai ychydig yn brin.
Mae'r blaenoriaethau yn cael eu disgrifio gan y Ceidwadwyr Cymreig fel hyn:
- Gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd esmwyth a threfnus sy'n gweithio i Gymru a phob rhan o'r DU; 
- Meithrin partneriaeth ddofn ac arbennig â'n cyfeillion a'n cymheiriaid ledled Ewrop; 
- Rhaid i Brydain aros yn gryf ac yn unedig - a chwarae rôl arweiniol yn y byd er mwyn diogelu ein buddiannau. 

Bydd trafodaethau yn dechrau rhwng prif drafodwr yr UE, Michel Barnier (chwith) ac Ysgrifennydd Brexit llywodraeth y DU, David Davis ddydd Llun
Llafur Cymru
Mae Llafur yn dweud eu bod wedi derbyn canlyniad y refferendwm. Ond maen nhw eisiau cadw rhai agweddau sylfaenol o'r berthynas rhwng Prydain a'r UE.
Dyma eu prif flaenoriaethau:
- Sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl i gefnogi busnesau, a sicrhau swyddi a ffyniant Cymru i'r dyfodol; 
- Ymateb i bryderon am agweddau ar fudo trwy gysylltu mudo yn y dyfodol a chyflogaeth; 
- Ar gyllid a buddsoddi, yr angen i lywodraeth y DU gyflawni'r addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli ceiniog o gyllid. 
Plaid Cymru
Dywedodd plaid Leanne Wood y dylid:
- Sicrhau bod modd masnachu ag Ewrop heb unrhyw rwystrau costus; 
- Mynnu bod Cymru yn derbyn pob ceiniog o'r hyn addawyd i Gymru yn ystod yr ymgyrch i adael yr UE; 
- Cael ymrwymiad i ymgynghori â'r Cynulliad Cenedlaethol cyn cytuno ar drefniadau masnachu newydd; 
- Gwarantu hawliau dinasyddion Ewrop sydd yn byw yng Nghymru. 

Ar ôl methu â sicrhau mwyafrif yn yr etholiad, bydd rhaid i Theresa May ddibynnu ar gefnogaeth pleidiau eraill ar gyfer ei chynlluniau Brexit
Democratiaid Rhyddfrydol
Er nad oes gan y blaid hon Aelod Seneddol yng Nghymru - nag arweinydd ar hyn o bryd - maen nhw wedi cynyddu eu cynrychiolaeth yn San Steffan.
Maen nhw mewn lleiafrif wrth iddyn nhw barhau i wrthwynebu Brexit.
Yn y cyfamser maen nhw'n gofyn am y canlynol:
- Parhau ag aelodaeth o'r farchnad sengl; 
- Cadw'r egwyddor o ryddid pobl i symud a gweithio; 
- Gwrthwynebu unrhyw newidiadau i wneud Cymru yn llai llewyrchus; 
- Sicrhau fod grymoedd priodol yn cael eu datganoli wedi Brexit. 
UKIP
Mae dylanwad UKIP wedi edwino ers canlyniadau trychinebus yn yr etholiad cyffredinol. Dyma eu blaenoriaethau:
- Torri'r cysylltiad ffurfiol rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd mor fuan â phosib; 
- Gwrthwynebu rhyddid dinasyddion i symud a gweithio heb reolau llymach; 
- Dweud nad oes angen cytundeb gyda'r UE i fasnachu, gan ein bod yn mewnforio mwy o nwyddau o Ewrop nag sydd yn cael ei allforio.