Athro mosg yng Nghaerdydd yn euog o ymosodiadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Cafwyd athro 81 oed o Gaerdydd yn euog o ymosodiad rhyw ar bedair merch mewn mosg.
Roedd Mohammed Haji Sadiq wedi ymosod ar y plant wrth iddo gynnal gwersi astudio'r Coran.
Clywodd y llys ei fod wedi "manteisio ar ei sefyllfa" ac roedd wedi cyffwrdd â'r merched yn amhriodol fel ffordd o ddisgyblu'r plant.
Yn ôl y dystiolaeth roedd Sadiq yn cam-drin y plant os oedden nhw'n gwneud camgymeriad wrth ddarllen y Coran.
Fe ddigwyddodd y troseddu rhwng 1996 a 2006 yn Mosg Madina yn Ffordd Woodville, Caerdydd.
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd fod Sadiq yn defnyddio ffon i daro'r plant, ac fe fyddai'n bygwth ei ddisgyblion ifanc.
Cafwyd y cyn-athro yn euog o 14 cyhuddiad o ymosodiadau rhyw ar blant ac yn ddieuog ar un cyhuddiad.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn hwyrach.
Bu Sadiq yn dysgu yn y mosg am 30 mlynedd hyd nes 2006 pan gaeodd yr adeilad yn dilyn tân.