Cyhuddo'r llywodraeth o 'gamarwain' dros amserlen Pont y Borth

Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl oedd y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn Awst 2025 yn wreiddiol

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl Ynys Môn wedi cael eu “camarwain” dros estyniad i amserlen y gwaith atgyweirio ar Bont y Borth, yn ôl AS yr ynys.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn wreiddiol y byddai dwy flynedd o waith atygyweirio Pont y Borth rhwng Gwynedd a'r ynys, a byddai dim disgwyl iddi ailagor yn llawn hyd nes Awst 2025.

Ond mae'r llywodraeth bellach wedi cyhoeddi y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025.

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi beirniadu'r oedi, gan ddweud y bydd yn golygu rhagor o darfu ar drigolion a busnesau lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw "hyd y rhaglen waith wedi newid", a'u bod wedi agor y bont dros dro dros y gaeaf i helpu busnesau.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau'r bont 200 oed yn ddirybudd fis Hydref 2022 oherwydd risgiau diogelwch "difrifol"

Fe ddechreuodd y gwaith ym mis Medi 2023 ar ôl i’r bont 200 oed orfod cael ei chau yn ddirybudd fis Hydref 2022 oherwydd risgiau diogelwch "difrifol".

Ddechrau Tachwedd, fe gafodd Pont y Borth ei hailagor yn llawn ar ôl i gam cyntaf y gwaith gael ei gwblhau, sef newid pob un o’r 168 o grogrodenni (hangers).

Ar y pryd roedd sôn y byddai oedi o bedwar mis tan Chwefror 2025 cyn dechrau ar ail ran y gwaith, ond mae Rhun ap Iorwerth yn dweud nad oedd yr oedi i'r dyddiad agor terfynol yn amlwg.

"Rwy'n siomedig o glywed bod y rhaglen waith i atgyweirio Pont y Borth bellach wedi'i hymestyn tan ddiwedd 2025, bedwar mis yn hwyrach na'r disgwyl", meddai.

“Er bod y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y bont yn ddiogel ac yn wydn yn bwysig, mae'n amlwg ei bod yn effeithio ar drigolion a busnesau lleol, a rŵan bydd y tarfu yn cael ei ymestyn y tu hwnt i'r hyn a ddywedwyd wrthynt yn wreiddiol.”

Ychwanegodd yr Aelod o'r Senedd mai'r "awgrym clir oedd bod y prosiect o flaen yr amserlen" wrth gyhoeddi'r ailagor dros dro.

"Mae darganfod nad yw hyn yn wir a fydd y prosiect rŵan yn cymryd tan fis Rhagfyr 2025 i'w gwblhau yn teimlo fel pe baem wedi cael ein camarwain.”

Mesurau rheoli traffig drwy’r amser

Cyn ailagor dros dro yn yr hydref, roedd lôn wedi bod ar gau ar y bont ers 14 mis, gyda signalau traffig a therfyn pwysau o 7.5 tunnell.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pan fydd y gwaith yn ailddechrau yn y gwanwyn y bydd rheolaeth traffig ar y bont drwy’r amser, gan gynnwys penwythnosau.

Hyd yma, dim ond yn ystod yr wythnos y mae mesurau i reoli traffig wedi bod yn eu lle.

Mae Rhun ap Iorwerth AS yn anfodlon gyda’r mesurau rheoli traffig: “Gyda goleuadau yn eu lle 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos; bydd hyn yn ychwanegu'n sylweddol at y tarfu ar bobl leol.”

Mae’n awyddus i weld Llywodraeth Cymru a'r contractwyr yn cwblhau’r gwaith yn ddiogel ond “mewn cyn lleied o amser â phosibl”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw "hyd y rhaglen waith wedi newid".

"Rydym wedi gwrando ar randdeiliaid a'r cymunedau lleol ac yn oedi cyn dechrau cam dau er mwyn caniatáu ailagor y bont yn llawn dros y gaeaf, gan gynnwys cyfnod y Nadolig, i helpu busnesau lleol."

Pynciau cysylltiedig