Amlosgfa'n ystyried diddymu ffi claddu plant dan 12 oed
- Cyhoeddwyd
Mae amlosgfa yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ystyried diddymu ffioedd gwasanaeth ar gyfer plant dan 12 oed.
Mae Amlosgfa Margam eisiau dilyn polisi Cyngor Castell-nedd Port Talbot o gladdu plant dan 12 oed am ddim ar eu tir.
Ar hyn o bryd, does dim ffi yn cael ei godi gan yr amlosgfa ar gyfer plant dan flwydd oed na rhai marw-anedig, ond mae'n costio £457 ar gyfer plant o un i 16 oed.
£585 yw'r gost ar gyfer plant dros 16 oed.
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Gwener ble fydd swyddogion yn argymell y dylai pwyllgor yr amlosgfa ddiddymu'r ffioedd.
Dyw Amlosgfa Abertawe ac Amlosgfa Llangrallo ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddim yn codi ffi ar gyfer plant dan 16 oed, ond mae cost i ddefnyddio'r capel.
Mae'r cais ar gyfer Amlosgfa Margam yn dilyn ymgyrch gan Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu ffioedd ar gyfer claddu plant.
Roedd rhaid i Ms Harris fenthyg arian yn 1989 er mwyn talu i gladdu ei mab, Martin, fu farw mewn gwrthdrawiad.
Ym mis Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y byddai'n diddymu ffioedd ar gyfer claddu plant - rhywbeth fyddai'n costio hyd at £1m y flwyddyn.
Mae cynghorau Caerdydd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Torfaen a Merthyr Tydfil eisoes wedi cael gwared â ffioedd claddu plant.