Anableddau dysgu: Galw ar golegau i wneud mwy
- Cyhoeddwyd
Mae angen i golegau wneud mwy i baratoi pobl gydag anableddau dysgu i fyw yn annibynnol, medd y corff arolygu addysg Estyn.
Mae arolygwyr yn awgrymu y dylai colegau sefydlu cynlluniau dysgu a rhaglenni sydd wedi'u dylunio i herio disgyblion ymhellach.
Roedd un coleg wedi ei ganmol am fonitro disgyblion yn gyson ac am wireddu targedau.
Mae 12 coleg yng Nghymru yn darparu rhaglenni ar gyfer pobl gydag anableddau ac anawsterau dysgu, sy'n amrywio o awtistiaeth i gyflyrau mwy dwys.
Yn 2015-16 fe wnaeth 1,600 o ddisgyblion gwblhau cyrsiau byw yn annibynnol (ISL) yng Nghymru.
Ond fe wnaeth arolwg pellach ddarganfod bod mwy o golegau angen:
Adnabod sgiliau a galluoedd dysgwyr er mwyn gwella'r ffordd maent yn cyfathrebu, bod yn annibynnol, eu cyflogadwyedd a'u lles;
Sicrhau bod cynlluniau yn adlewyrchu amcanion yr asesiad, sy'n cynnwys targedau mesuradwy;
Cynllunio rhaglenni heriol i wella sgiliau byw yn annibynnol;
Cynnwys cyfleoedd i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i allu'r myfyriwr a'u dyfodol ar ôl gadael y coleg.
Fe wnaeth yr arolwg hefyd awgrymu dylai cynghorau sicrhau eu bod yn darparu'r wybodaeth berthnasol ynglŷn ag anghenion myfyrwyr pan maen nhw'n dechrau eu haddysg, a datblygu partneriaeth fwy eang gyda sefydliadau gwirfoddol ar gyfer pobl dros 16 oed.
Mae'r arolwg yn dweud dylai Llywodraeth Cymru adolygu llwyddiant dysgwyr er mwyn sicrhau patrwm cywir o raddfa llwyddiant.
Ond fe wnaeth yr adolygiad hefyd adlewyrchu gwaith da gan Grŵp Llandrillo Menai, sy'n gweithredu ar draws gogledd-orllewin Cymru.
Roedden nhw wedi gosod cynllun asesu dros gyfnod o chwe wythnos er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â gallu'r myfyrwyr er mwyn sicrhau amcanion tymor hir y tu fewn a'r tu allan i'r coleg.
Fe wnaeth yr arolygwyr nodi llwyddiant arwyddocaol ymysg rhai myfyrwyr, gan gynnwys un myfyriwr oedd yn cael trafferth cyfathrebu ond sydd bellach yn mynychu clybiau ieuenctid.