Ymchwiliad i farwolaethau dau filwr wedi digwyddiad tanc

  • Cyhoeddwyd
Maes tanio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymchwilio i achos y digwyddiad

Mae'r ymchwiliad i farwolaethau dau filwr yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thanc ar faes tanio yn Sir Benfro yn parhau ddydd Gwener.

Mae dau filwr arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yng Nghastell Martin brynhawn Mercher.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn, Heddlu Dyfed Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad.

Dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb, Tobias Ellwood, bod y ddau filwr a fu farw yn aelodau o Gatrawd Brenhinol y Tanciau.

Bu farw un o'r milwyr yn Ysbyty Treforys yn Abertawe fore Iau, a bu farw'r ail yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddarach yn y diwrnod.

Mae un milwr yn parhau yn Ysbyty Treforys, tra bo'r llall mewn ysbyty yn Birmingham.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Mae BBC Cymru yn deall fod y digwyddiad yn ymwneud â ffrwydron sy'n cael eu tanio o danciau Challenger.

Yn ôl newyddiadurwr y BBC yno, mae'r safle'n brysur fore Gwener wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal.

Mae safle'r fyddin yng Nghastell Martin yn ymestyn dros 5,900 acer ar hyd arfordir Sir Benfro.

Oherwydd y digwyddiad, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwahardd pob ymarferion tanio nes eu bod yn gwybod achos y digwyddiad.

Mae'r gwaharddiad mewn lle ar gyfer yr holl fyddin, ble bynnag y maen nhw yn y byd.