Maori'r Crysau Duon 10-32 Y Llewod
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llewod wedi sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf hyd yn hyn ar eu taith i Seland Newydd, a hynny wythnos cyn iddyn nhw wynebu'r Crysau Duon yn y prawf cyntaf.
Digon agos oedd yr ornest rhyngddyn nhw a Maori'r Crysau Duon yn yr hanner cyntaf, wrth i'r ddau dîm dreulio cyfnodau ar y blaen.
Ond yn yr ail hanner fe ddangosodd y Llewod eu gallu, gan sgorio dwy gais a sicrhau buddugoliaeth o 32-10.
Roedd Leigh Halfpenny yn un o sawl chwaraewr a ddisgleiriodd, a hynny wrth i Warren Gatland ddewis y rhan fwyaf o chwaraewyr cryfaf y garfan ar gyfer yr ornest.
Camgymeriad
Dechreuodd y Llewod ar y droed flaen, gyda dwy gic gosb gan Halfpenny yn rhoi mantais o chwe phwynt iddynt yn Rotorua.
Ond ar ôl 12 munud daeth cais gyntaf y gêm i'r Maori, gyda Liam Messam yn manteisio ar y bêl rydd i dirio yn dilyn camgymeriad gan George North, a Damian McKenzie yn trosi.
Bu bron i'r Llewod daro nôl yn syth, wrth i Jonathan Davies fylchu ac yna dod o fewn dau fetr i'r llinell gais cyn cael ei daclo.
Fe wnaeth Halfpenny a McKenzie gyfnewid ciciau cosb, cyn i'r Cymro ychwanegu tri phwynt arall i sicrhau mai'r Llewod oedd yn mynd i mewn i'r egwyl 12-10 ar y blaen.
Dechreuodd yr ail hanner yn yr un modd a'r cyntaf, gydag Halfpenny yn llwyddo gyda'i bumed gic o'r ornest.
Yn fuan wedi hynny fe aeth y Maori lawr i 14 dyn wrth i Tawera Kerr-Barlow gael cerdyn melyn am daclo Halfpenny heb ddefnyddio'i freichiau.
O'r symudiad a ddilynodd daeth Jamie George o fewn trwch blewyn i groesi am gais i'r Llewod, cyn i'r dyfarnwr teledu benderfynu nad oedd y bêl wedi ei thirio.
Ond parhaodd y Llewod i bwyso, a daeth cais gosb wedi 50 munud yn dilyn gwaith da gan y sgrym.
Manteisiodd y Llewod ar absenoldeb Kerr-Barlow i sgorio ail gais llai na phum munud yn ddiweddarach, gyda rhagor o bwysau gan y blaenwyr yn rhoi'r cyfle i Maro Itoje groesi, a Halfpenny yn ychwanegu'r trosiad.
Ychwanegodd y cefnwr dri phwynt arall gydag ychydig dros ddeng munud i fynd i ymestyn y fantais i bedair sgôr, a sichrau'r fuddugoliaeth.
Llwyddodd pob un o'r pedwar Cymro ddechreuodd y gêm - Halfpenny, Davies, North, a Taulupe Faletau - i wneud eu marc, a daeth Sam Warburton, Ken Owens a Dan Biggar ymlaen fel eilyddion.
Bydd y Llewod yn herio'r Chiefs ddydd Mawrth, eu gêm baratoadol olaf cyn iddyn nhw wynebu Seland Newydd yn y prawf cyntaf ddydd Sadwrn nesaf.