Gatland yn galw pedwar Cymro arall i garfan y Llewod
- Cyhoeddwyd

Mae mewnwr y Scarlets, Gareth Davies yn un o'r Cymry sydd wedi eu galw i garfan y Llewod
Mae Warren Gatland wedi galw pedwar Cymro arall, a dau Albanwr, i garfan y Llewod ar gyfer y gemau sydd yn weddill o'r daith.
Bydd Kristian Dacey, Tomas Francis, Cory Hill a Gareth Davies yn ymuno â'r Llewod ar ôl bod gyda charfan Cymru oedd wedi herio Tonga yn Seland Newydd ddydd Gwener.
Bydd Finn Russell ac Alan Dell, sydd wedi bod gyda charfan yr Alban yn Awstralia, hefyd yn ymuno.
Yn y cyfamser mae Ross Moriarty wedi gorfod dychwelyd o'r daith, wedi iddo fethu â gwella o anaf a gafodd yn ystod gêm gyntaf y daith yn erbyn Barbariaid y Taleithiau.
Beirniadaeth
Mae rheolwr Lloegr, Eddie Jones wedi beirniadu'r dewisiadau diweddaraf gan Gatland fodd bynnag, gan holi pam nad yw'r un Sais ychwanegol wedi cael ei alw i garfan Llewod.
Ar hyn o bryd mae Lloegr ar daith yn yr Ariannin, ac mae Jones yn teimlo fod hynny wedi cyfrif yn erbyn ei chwaraewyr ef o gofio bod yr Albanwyr a'r Cymry eisoes ar gyfandir Awstralasia.
"Mae'r Llewod yn dîm anrhydeddus - pan 'dych chi'n dod yn Lew, rydych chi'n cael eich cofio am oes," meddai Jones wrth BBC Radio 5 Live.
"Yr unig sylw fydden i'n ei wneud yw, hoffen i ei weld yn cael ei ddewis ar sail haeddiant, yn hytrach na pha mor agos ydych chi'n ddaearyddol."