Chwilio tŷ yng Nghaerdydd wedi ymosodiad Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdurdodau'n archwilio tŷ yng Nghaerdydd mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol ar addolwyr yn Llundain.
Fe gafodd dyn 47 oed ei arestio wedi i fan daro grŵp o Fwslimiaid ar Seven Sisters Road yn ngogledd y ddinas.
Bu farw un dyn ac fe gafodd wyth arall eu cludo i'r ysbyty.
Mae'n debyg bod y fan gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad yn eiddo i gwmni Pontyclun Van Hire yn Rhondda Cynon Taf.
Troseddau terfysgol
Fe yrrodd y fan dros balmant yn ardal Finsbury Park toc ar ôl hanner nos wrth i Fwslimiaid adael mosgiau lleol.
Cafodd dyn ei ddal gan aelodau o'r cyhoedd yn y fan a'r lle, cyn i'r heddlu ei arestio.
Mae wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ynghyd â pharatoi terfysgaeth gan gynnwys llofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Fore Llun, daeth swyddogion yr heddlu i swyddfeydd Pontyclun Van Hire. Dywedodd y cwmni mewn datganiad eu bod yn cydweithio gydag ymchwiliad Heddlu Llundain.
Y llu hwnnw sy'n arwain yr ymchwiliad, gyda Heddlu De Cymru yn dweud eu bod yn "cefnogi" eu hymdrechion.
Dywedodd Heddlu'r De hefyd y bydd swyddogion yn cynnal mwy o batrolau i roi sicrwydd i gymunedau, yn enwedig yn ystod cyfnod Ramadan.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Mwslimaidd Cymru eu bod wedi eu "brawychu" gan yr ymosodiad, a'u bod nhw'n gweddïo dros y rheiny a gafodd eu taro.
"Mae hi hyd yn oed yn fwy brawychus bod cysylltiad Cymreig posib gyda'r ymosodwr", meddai.
"Rydym ni'n ymddiried yn yr awdurdodau ac ymchwiliad yr heddlu, ac yn disgwyl am fwy o wybodaeth."
Ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd Sian Eleri Jones, sy'n byw gerllaw Finsbury Park, ei bod wedi cael braw wrth glywed beth ddigwyddodd.
"Nes i glywed sŵn hofrennydd neu ddau yn yr awyr neithiwr.
"Dwi'n mynd i Finsbury Park bob dydd ar y ffordd i gwaith. Fedra i ddim dychmygu be' mae'r bobl welodd beth ddigwyddodd neithiwr yn ei deimlo.
"Mae'n bechod bod hyn wedi digwydd."