Ffrae Cyngor Conwy: Arweinydd sir i adael Plaid Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Conwy wedi awgrymu y gallai adael Plaid Cymru yn sgil ffrae am gabinet newydd y sir.
Roedd Gareth Jones yn siarad wedi i Leanne Wood ddod i gwrdd â chynghorwyr y sir ddydd Llun.
Yn y bore, fe gyhoeddodd Mr Jones ei gabinet sy'n cynnwys aelodau o'r Ceidwadwyr - er fod Plaid Cymru yn genedlaethol wedi gwrthod caniatáu'r glymblaid â'r Torïaid.
Dywedodd Mr Jones ei fod yn bwriadu yn aros fel arweinydd ar y cyngor.
Arweinydd yn enw Plaid Cymru?
Yn y cabinet y cyhoeddodd Mr Jones dydd Llun, mae pum Ceidwadwr, dau o Blaid Cymru ac un aelod annibynnol.
Roedd 'na ddau gynghorydd arall o Blaid Cymru yng nghynlluniau gwreiddiol Mr Jones, ond dydyn nhw ddim yn rhan o'r cynlluniau terfynol.
Wedi'r cyfarfod gyda Ms Wood ym Mae Colwyn, dywedodd Mr Jones: "Fydda' i yn aros fel arweinydd.
"Y cwestiwn teg... ydy a fydda' i'n arweinydd Plaid Cymru ac yn arwain y cabinet. Mae'n edrych yn debyg na fydda' i ddim."
Wrth iddi hithau adael y cyfarfod, dywedodd Ms Wood bod y trafodaethau wedi bod yn "dda".
Ond pan ofynnwyd iddi os fyddai Mr Jones yn parhau'n aelod o Blaid Cymru wedi'r ffrae, dywedodd y "byddai'n rhai i chi ofyn iddo fe."
Cwestiynu blaenoriaethau Plaid
Dywedodd Mr Jones hefyd dydd Llun ei fod yn credu bod blaenoriaethau Plaid Cymru yn anghywir.
"I fi, mae [llywodraeth leol] yn flaenoriaeth gynta'," meddai. "Mae'n edrych yn debyg i fi bod hwnnw'n dod yn drydydd blaenoriaeth ar ôl San Steffan, ar ôl y Cynulliad...
"Dwi'n meddwl, er mwyn llwyddiant a lles Plaid Cymru, y dylai'r blaenoriaethau hynny fod yn gwbl fel arall."
Y ddau gynghorydd arall oedd yn rhan o gynllun gwreiddiol Mr Jones ar gyfer y cabinet oedd Garffild Lloyd Lewis a Trystan Lewis. Dydyn nhw ddim yn y cabinet terfynol wedi gwrthwynebiad y blaid yn ganolog.
Dywedodd Mr Jones bod y penderfyniad yn golygu bod "rhai aelodau talentog iawn o Blaid Cymru" fyddai ddim yn cael "dangos be' allan nhw'i gyflawni mewn meysydd fel addysg a'r iaith Gymraeg".
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru mai "ewyllys yr aelodau" sy'n rheoli'r blaid, a bod y pwyllgor wedi "gwrthod cynigion [Mr Jones] mewn pleidlais ddemocrataidd."
"Ni fydd Plaid Cymru yn rhan o'r glymblaid arfaethedig ar Gyngor Conwy", meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2017