Sefydlu grŵp i 'ddysgu gwersi' o drychineb Grenfell
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp arbenigol i ddysgu unrhyw wersi ddaw yn sgil yr ymchwiliad i drychineb tŵr Grenfell.
Mewn datganiad i'r Senedd ym Mae Caerdydd dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant ei fod yn cydymdeimlo'n ddwys â phawb sydd wedi dioddef oherwydd y tân
Cadarnhaodd Mr Sargeant nad oes gan unrhyw un o adeiladau landlordiaid cymdeithasol Cymru y gorchuddion plastig sy'n cael eu hamau o achosi'r trychineb.
Cyhoeddodd hefyd bod saith bloc o fflatiau yng Nghymru wedi cael systemau chwistrellu dŵr.
Trafodaethau brys
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 36 o adeiladau yng Nghymru sy'n saith llawr o uchder neu'n dalach, ac sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol.
Dywedodd Carl Sargeant: "Mae'n ymddangos mai gorchudd plastig oedd achos uniongyrchol y tân.
"Rydym wedi cwblhau'r rownd gyntaf o drafodaethau brys gyda holl landlordiaid tai cymdeithasol yng Nghymru.
"Yn ôl y landlordiaid does gan ddim un adeilad orchudd plastig tebyg i'r un a ddefnyddiwyd yn nhŵr Grenfell."