Beirniadu 'anwireddau' erthygl Guardian ar addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysgrifennydd addysg wedi cyhuddo papur The Guardian o roi "camargraff ddifrifol" o addysg Gymraeg.
Fe gyhoeddodd y papur erthygl, dolen allanol ddydd Mawrth am y ffrae am Ysgol Llangennech yn Sir Gâr, gafodd ei throi yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Mae'r darn yn canolbwyntio ar safbwyntiau rhieni oedd yn gwrthwynebu'r newid.
Dywedodd Kirsty Williams wrth y Cynulliad bod yr erthygl yn llawn "anwireddau".
Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb The Guardian.
'Newyddiaduriaeth honedig'
Roedd Ms Williams yn siarad wedi i AC Plaid Cymru, Simon Thomas, feirniadu'r papur a gofyn i'r ysgrifennydd ymyrryd.
Dywedodd Ms Williams wrth y Senedd ei bod wedi ei "digalonni gan y pennawd camarweiniol a'r anwireddau sy'n frith yn y darn o newyddiaduriaeth honedig yma".
Ychwanegodd: "Mae'n siomedig iawn ac yn rhoi camargraff ddifrifol o'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned arbennig hon, ac uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg."
Fe ddywedodd Ms Williams hefyd y byddai'r llywodraeth yn ceisio "cywiro a rhoi'r argraff gywir" o'r system addysg yng Nghymru "pan fo materion am yr iaith yn codi".
Mwy am ffrae Ysgol Llangennech
Roedd ymateb chwyrn i'r erthygl ar Twitter, gyda'r cyn-ysgrifennydd addysg, Leighton Andrews, ymysg y beirniaid.
Dywedodd ei fod yn "siomedig iawn" ag agwedd The Guardian, a bod hi'n "nodweddiadol" bod adran addysg y cyhoeddiad "ond yn edrych ar Gymru ac addysg Gymraeg pan mae'n synhwyro bod 'na ffrae".
Ymhlith y beirniaid eraill oedd dau o gyfranwyr The Guardian, Rhiannon Cosslett ac Elena Cresci.
Dywedodd Ms Cosslett ei bod wedi'i "digalonni gan ba mor ragfarnllyd yw'r erthygl", gan ychwanegu ei bod yn dangos "grym y lobi gwrth-Gymraeg".
Fe ddywedodd Ms Cresci ei bod hi "ddim yn hapus". Mae'r ddwy yn bwriadu cwyno i un o olygyddion y cyhoeddiad.
Mwy o'r ymateb ar Twitter
Mae'r erthygl yn trafod effaith addysg Gymraeg ar blant o deuluoedd di-Gymraeg ac yn dweud bod "cael eich trwytho i mewn i ddosbarth lle dydych methu cyfathrebu neu ddeall yn medru bod yn brofiad brawychus a diflas" i rai disgyblion.
Daw rhan o'r dystiolaeth am gyfer y darn o adroddiad o 2009 gan elusen Achub y Plant.
Mae'r elusen wedi egluro nad ydy'r sylwadau hynny'n sôn am addysg Gymraeg yn benodol.
"Daw'r darn o ganllaw yn datgan pwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol mewn addysg", meddai'r elusen ar Twitter, dolen allanol.
Ychwanegodd mai bwriad y canllaw oedd "helpu'r rheiny mewn gwledydd sy'n datblygu, yn rhanbarth Asia/Môr Tawel, i ddatblygu gwasanaethau addysgol amlieithog effeithiol".
Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i'r Guardian am ymateb i'r feirniadaeth.