Môn yn chwifio'r ddraig
- Cyhoeddwyd
Efallai nad ydy Cymru yn cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd ar hyn o bryd ond yr wythnos yma fe fydd yn cael ei chynrychioli yn 'Olympau bach' y byd.
Mae 129 o athletwyr, hyfforddwyr a chefnogwyr o Ynys Môn wedi teithio i ynys Gotland yn Sweden i chwifio'r ddraig goch yn Gemau'r Ynysoedd, pencampwriaeth ryngwladol sy'n agored i ynysoedd â llai na 150,000 o bobl yn byw arnynt.
Mae 24 o ynysoedd y byd yn cymryd rhan mewn 18 o gampau gan gynnwys Ynys Manaw, Ynysoedd y Cayman, Jersey, Rhodes a Bermiwda.
Mae Môn wedi bod yn cystadlu ers y Gemau cyntaf yn 1985 ac mae'r ynys eisiau gwneud cais i'w cynnal eu hunain yn 2025.
Dyma rai o uchafbwyntiau Ynys Môn yn y Gemau dros y degawdau diwethaf.

Gethin Thomas yn ennill medal aur yn y ras 400 metr i ddynion yn 1997. Enillodd Môn ddwy fedal aur, tair arian a naw efydd yn y gemau hynny.

Tîm pêl-droed y dynion yn dathlu gôl yn Jersey, 2015. Roedd Môn yn 13eg ar ddiwedd gemau 2015 wedi ennill pump aur a phump efydd.

Enillodd tîm pêl-droed y dynion eu hunig fedal aur yn Gotland 1999 gydag Osian Roberts, is-reolwr Cymru bellach, yn gapten ac yn rheolwr ar y tîm.

Medal arian i Siwan Davies mewn gymnasteg yn y Gemau yn Aland, 2009.

Iolo Hughes yn mynd am yr Aur yn y ras 5000m i ddynion yn 2015. Enillodd y fedal aur yn ei gemau cyntaf yn Bermuda 2013 hefyd.

Enillodd Rhys Jones ddwy fedal aur am saethu â bwa saeth yn Shetland yn 2005.

Cipiodd tîm saethu Edward Roberts, Thomas William Thomas ac Anthony White fedal aur yn 2009.

Yn 2011 enillodd Brea Leung aur yng nghystadleuaeth disgen y menywod - mae hi bellach yn aelod o garfan tîm rygbi merched Cymru.

Y tîm hwylio, Mike Throne, Dominic Breen Turner, Eifion Mon a Benjamn Todd yw un o'r timau mwyaf llwyddiannus i Fôn - nhw gafodd y fedal aur yn 2015. Yn affodus fyddan nhw ddim yn cystadlu yn Gotland 2017.

Tîm pêl-droed menywod 2015. Anfonodd Ynys Môn dîm pêl-droed menywod i'r gemau am y tro cyntaf yn 2003 a dod yn 10fed.

Tîm badminton Môn 2015.

Y seremoni agoriadol yn Jersey 2015.

Nid gwaith caled yw'r cyfan - mae cyfle i fwynhau hefyd! Ar wahân i roi cyfle i athletwyr o ynysoedd bach gystadlu yn erbyn ei gilydd, mae cyfnewid diwylliannau a chymdeithasu gydag ynysoedd eraill yn rhan bwysig o'r gemau hefyd.

Connor Laverty fydd yn cario'r faner yn seremoni agoriadol 2017 a Cai Powell Roberts yw'r cariwr dŵr swyddogol.
Mae'r Gemau'n digwydd yn 2017 rhwng Mehefin 24 a 30.
Pob lwc i Fôn yn Gotland!