Creu map trên tanddaearol o Gaerdydd yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae map trên tanddaearol o Gaerdydd yn y Gymraeg yn cael ei ddadorchuddio er mwyn codi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf.
Mae'r map yn cynnwys rhai o enwau Cymraeg hynaf y brifddinas sydd wedi mynd yn angof mewn rhai achosion, fel Heol y Plwca (Heol y Ddinas) yn Y Rhath a'r Cimdda (Parc Fictoria) yn Nhreganna.
Yn ogystal, mae enwau newydd wedi eu creu gan gyfeirio at hanes Caerdydd wrth eu dyfeisio.
Gorsaf Llywelyn Bren yw un enghraifft - ef arweiniodd y gwrthryfel yn erbyn y Brenin Edward II o Loegr yn y 14eg ganrif.
Safleoedd a ffigyrau
Ar y map hefyd mae safleoedd adnabyddus a ffigyrau blaenllaw fel y pencampwr Paralympaidd Tanni-Grey-Thompson a'r diweddar gyn-brif weinidog, Rhodri Morgan.
Daeth y syniad ar ôl i bwyllgor ardal Cyncoed, Penylan, Y Rhath a Cathays gyfarfod â Christian Amodeo, sefydlydd cwmni I Loves The 'Diff, a'r person wnaeth greu y map dychmygol trên tanddaearol Caerdydd yn 2010.
Mae'r map hwnnw i weld yng nghanolfan siopa Dewi Sant.
Bydd y map Cymraeg yn cael ei werthu ar ffurf poster neu lun yn oriel Cardiff Made nos Fercher, a hefyd yng ngŵyl Tafwyl.
'Dathlu etifeddiaeth'
Dirprwy bennaeth adran Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Dr Dylan Foster Evans, sydd wedi gwneud yr addasiad i'r Gymraeg o'r map wrth gydweithio â Mr Amodeo.
Gobaith Dr Evans yw nid yn unig codi arian ar gyfer y brifwyl ond hefyd cydnabod hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd.
"Mae'r map yn ceisio cynnig enwau Cymraeg ar gyfer nifer o strydoedd ac atyniadau Caerdydd gan eu rhoi yn llythrennol ar y map mewn ffordd sy'n ffres a chwareus," meddai.
"Ond mae hefyd yn ceisio datguddio peth o hanes cudd yr iaith Gymraeg yn y ddinas.
"Ar adegau, mae'r brifddinas wedi bod yn gyndyn i ddathlu ei hetifeddiaeth ieithyddol ac mae yna wastad berygl y bydd y dreftadaeth gyfoethog honno yn cael ei hanghofio.
"Mae'r map hardd hwn yn fodd i sicrhau nad yw ein hanes yn cael ei golli ac ar yr un pryd bydd yn codi arian mawr ei angen ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol."
Dywedodd Christian Amodeo: "Pan drafodwyd y syniad o gael map o'r math yma ar gyfer yr Eisteddfod, mi roeddwn yn awyddus o'r dechrau'n deg. Dwi'n meddwl ei fod yn syniad rhagorol.
"Mae'n dda gwybod bod y tîm disglair nid yn unig wedi sicrhau cywirdeb ieithyddol ond maen nhw hefyd wedi ychwanegu llawer o flas diwylliannol.
"Dwi'n gobeithio ychwanegu nodiadau ar yr amrywiol orsafoedd ar wefan I Loves The 'Diff er mwyn esbonio'r rhesymau dros enwau nifer o'r gorsafoedd!"