‘Lleden? Fel Eden!’
- Cyhoeddwyd
Bydd rhywbeth ychydig yn wahanol i'r arfer yn Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Glityr, gwisgoedd ffansi a gwledd o ganeuon cyfarwydd ar eu newydd wedd. Dyna sut bydd band newydd sbon yn dathlu pen-blwydd Maes B yn 20 oed. Er bod Lleden wedi dechrau canu efo'i gilydd tua pedair blynedd yn ôl mewn priodas ffrind, mi fydden nhw yn perfformio yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar brif lwyfan Tafwyl ar Nos Sul 2 Gorffennaf.
Pum aelod sydd i'r band, gyda Tara Bethan a Sam Roberts yn brif leiswyr, Wil Roberts ar y drymiau, Heledd Watkins, prif leisydd HMS Morris, yn chwarae bas a Rhys Jones ar y gitâr flaen.
Hwyl yr ŵyl
Fel mae'r llun uchod yn awgrymu mae Lleden yn fand lliwgar iawn a mi fydden nhw yn chwarae pob math o offerynnau fel bongos a thamborins i geisio annog y gynulleidfa i ymuno yn yr hwyl.
''Da ni isio cael ein gweld fel band hwyl er mwyn i'r gynulleidfa gael hwyl a ma'r dillad ridicilys yn ffordd hawdd o helpu hynny 'mlaen'' meddai'r actores Tara Bethan.
Mae Tara hefyd yn un o'r cantorion ym mand Charlotte Church, Late Night Pop Dungeon ac mae'r profiad hwnnw wedi ysbrydoli'r band newydd:
''Ma' Pop Dungeon yn mash-yp o lot o ganeuon gwahanol dros ei gilydd, fatha guilty pleasures mewn ffor', cyfuno caneuon 'sa ti ddim yn disgwyl i'w clywad nhw ar draws ei gilydd, a nesh i ga'l bach o ysbrydoliaeth o hynny. ''
Bydd Lleden yn canu casgliad o ffefrynnau yr artistiaid sydd wedi perfformio ym Maes B dros y blynyddoedd. Mae honno yn gerddoriaeth medd y band sy'n "amlwg yn siarad dros ei hun".
Cadw'r gyfrinach
Mae Lleden wedi cael rhyddid gan drefnwyr Maes B i ddewis pa ganeuon i'w canu gan roi sgôp enfawr o bosibiliadau. Ond dyw'r band ddim am ddatgelu gormod ac mae Tara Bethan am gadw'r elfen o sypreis:
''Dan i'm isho d'eud gormod ynglŷn â pha ganeuon a pha fandia 'da ni'n cyfro, ond be da ni'n bwriadu 'neud ydi dod â nostalgia neis i'r nos Wenar yn y 'Steddfod a Tafwyl.
"Da ni 'di rili tynnu pob dim yn ddarna' a 'neud yn siŵr bo ni'n teimlo bo ni'n rhoi teyrnged gall a gonast i'r ugain mlynadd â gymaint o genres gwahanol a phosib."
Ma' rhywbeth 'fishy' am y band 'ma!
Bydd Lleden yn cefnogi Eden ar Lwyfan y Maes nos Wener 11 Awst yn y brifwyl ar Ynys Môn, ond tybed beth yw'r hanes tu ôl i'r enw?
''Nath Wil gwglo Northern Soul achos bod tri chwartar o'r band yn dod o'r Gogledd, a ma' Heledd yn dod o Lanymddyfri…
"Oddan ni'n meddwl trio cyfieithu Northern Souls, ond be ddoth fyny o'dd sole, y pysgodyn. 'Dwi'n meddwl odd Wil 'di sillafu fo'n 'rong ac wedyn sole yn Gymraeg oedd Lleden.
"Nath o ddeud Lleden fatha jôc ac wedyn nath Heledd a fi fynd 'Lleden? Fel Eden!' Da ni'n syportio Eden ar y noson!''