Steddfodau Hywel
- Cyhoeddwyd
Chwe deg mlynedd yn union ers ei brofiad cyntaf o'r Eisteddfod Genedlaethol, mae Hywel Gwynfryn yn dychwelyd i fro ei gynefin i ddarlledu o'r Brifwyl. Mae'n rhannu rhai o'i atgofion Eisteddfodol gyda Cymru Fyw.
Ers gadael yr ynys yn ei arddegau daeth Hywel Gwynfryn yn un o feibion enwocaf Môn. Yn ddarlledwr uchel ei barch, sgrifennwr toreithiog ac un o leisiau mwyaf cyfarwydd y genedl. Mae'n drysor cenedlaethol sy'n ymfalchïo'n y ffaith ei fod yn hanu o Sir Fôn.
Ond, fe'i fabwysiadwyd gan y brifddinas yn 18 mlwydd oed ac mae Hywel yn cyfaddef nad yw'r dynfa yn ôl i Fôn mor gryf ac y bu hi yn y dyddiau cynnar.
"Ydw, rwy'n ymfalchïo'n fawr yn y ffaith mod i'n dod o Ynys Môn," meddai Hywel. "Ond erbyn heddiw, ychydig iawn o bobl sydd ar ôl fyddai'n fy nghofio i'n Llangefni."
Serch hynny, mae'n edrych ymlaen yn arw at dreulio cyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei hen gynefin.
Oherwydd, os mai mab maeth y brifddinas yw Hywel, mae'r fagwraeth gafodd gan y fam fawr 'Môn' yr un mor berthnasol ag erioed.
"Capel Smyrna ac Ysgol y British Llangefni - dyma'r sefydliadau oedd yn eithriadol o bwysig yn fy magwraeth i.
"Hefyd Caffi Penlan a sinema'r Arcadia. Y naill lle o'n i'n mynd i wrando ar Elvis Presley a Buddy Holly a'r llall lle oedden ni'n mynd i freuddwydio am fod yn gowbois.
"Dyma'r gynhysgaeth ges i," ychwanegodd. "Gallai ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon mai dyma'r cyfnod hapusaf yn fy mywyd i.
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r peth ar y pryd ond roedd yr hyn ro'n i'n ei wneud yn y capel ac yn yr ysgol fel dysgu adnodau ac adrodd barddoniaeth ar gof yn baratoad anhygoel ar gyfer fy ngyrfa fel darlledwr," meddai Hywel.
Llinyn cyswllt
Hyd heddiw, mae wrth ei fodd yn darlledu'n fyw a bydd yn ei ogoniant wrth gyfleu holl fwrlwm y cystadlu i wrandawyr Radio Cymru unwaith eto eleni.
Mae'r Eisteddfod yn llinyn cyswllt sy'n ymestyn ar hyd y degawdau a sy'n dal i glymu Hywel at fro ei febyd.
Mae'n cofio'n glir ei brofiad cyntaf fel steddfotwr ifanc brwd.
"Ro'n i ar y llwyfan yn Steddfod Llanerchymedd a thrwy'r holl berfformiad roedd ci y tu allan i ffenest y neuadd yn udo fel tae'i gynffon o ar dân.
"Fi enillodd er bod rhai yn credu fod y ci yn haeddu'r wobr gynaf, a finnau'r ail."
Y flwyddyn ganlynol, 1957, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni.
"O'n i wedi cael rhan Meffiboseth yn nrama gomisiwn Cynan, Absalom fy Mab. Ond byddai 'Mess-o-bopath' wedi bod yn enw mwy priodol," meddai Hywel. "Roedd fy ngyhmeriad yn gloff ond fedrwn i yn fy myw â chofio a oedd fy nghoes chwith neu fy nghoes dde yn glof. Doedd dim cysondeb yn fy nghloffni! Ac yn lle ffon bagl, brwsh llawr oedd gen i!" meddai.
"Roedd y cynhyrchiad yn draed moch llwyr!"
Yr Arab o Fôn - a fi!
Os mai profiad echrydus oedd bod ar lwyfan y flwyddyn honno, dyma'r Maes yn cynnig profiad hudolus i'r 'steddfotwr ifanc wrth iddo fachu llofnod un o'i arwyr, yr actor Hugh Griffith, oedd yn cael ei dderbyn i'r orsedd y flwyddyn honno.
Ddwy flynedd wedyn, cipiodd yr actor mawr o Fôn Oscar am ei ran fel Sheik Ilderim yn y ffilm Ben-Hur.
Yn ôl Griffith: "Nes i ennill yr Oscar am wisgo gwisg wen fel yr un ges i yn Steddfod Llangefni, am actio rhan y gwerthwr ceffylau Arabaidd Ilderim. Y fi felly oedd yr Arab o Fôn!"
Parhau wnaeth y cysylltiad rhwng y ddau a blynyddoedd yn ddiweddarach aeth Hywel ati i ysgrifennu cofiant yr actor.
Darlledu'n flynyddol
Eisteddfod Aberafan 1966 oedd Eisteddfod cynta' Hywel fel darlledwr.
Mae wedi darlledu'n flynyddol o'r Eisteddfod ers hynny yn ogystal â derbyn y wisg wen a'r wisg werdd gan yr Orsedd. (Chwedl yr 'home and away kit'!)
"Yr hyn dwi'n mwynhau orau am yr Eisteddfod yw'r darlledu byw - 'da chi'n gorfod meddwl ar eich traed o hyd," meddai Hywel.
"Mae cael cwmni da'n bwysig hefyd. Ac wrth gwrs mae'n gyfle i gwrdd â hen ffrindiau ac i gymdeithasu - ry'n ni'n cael cymaint o hwyl," ychwanegodd.
Ond a ydy Hywel yn cael yr un wefr wrth ddarlledu o'r Maes heddiw a phan ddechreuodd ar ei antur eisteddfodol dros hanner canrif yn ôl?
"I fod yn onest, mae'n teimlo fel mod i wedi camu mewn i'r stiwdio yn Aberafan yn 1966 a dod allan yn 2017!" dywedodd. "I fi, mae'n teimlo fel un Eisteddfod hyfryd, hir."
Bydd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn cyflwyno O'r Maes ar BBC Radio Cymru trwy gydol yr Eisteddfod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2016