Cynnal profion diogelwch tân mewn fflatiau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
fflatiau
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn meddwl bod gorchuddion plastig wedi eu defnyddio ar fflatiau yng Nghymru

Bydd profion diogelwch tân a phrofion gwirio eraill yn digwydd mewn fflatiau uchel yng Nghymru sydd yn cael eu defnyddio at ddibenion tai cymdeithasol.

Daw hyn wedi cais gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn y tân yn Llundain yr wythnos diwethaf ble mae o leiaf 79 o bobl wedi marw.

Mae'r heddlu sydd yn ymchwilio'r tân ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell wedi dweud bod y gorchuddion plastig oedd ar yr adeilad, a'r deunydd inswleiddio, wedi methu'r profion diogelwch.

Dywedodd gweinidogion Cymru eu bod eisiau'r un profion ar orchuddion plastig yng Nghymru a'r rhai sydd yn digwydd yn Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y tân yn Nhŵr Grenfell mewn rhewgell yn un o'r fflatiau

Ar hyn o bryd mae cyhuddiadau o ddynladdiad yn cael eu hystyried yn achos y tan yn Llundain.

Mae 36 bloc o fflatiau sydd saith llawr neu fwy, ac yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion tai cymdeithasol, yn bodoli yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn annog landlordiaid tai cymdeithasol yng Nghymru i brofi samplau o flociau perthnasol "gan ddefnyddio'r un broses a chyfleusterau gafodd ei ddisgrifio gan y prif weinidog yn ei datganiad".

Ddydd Mawrth dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant wrth Aelodau Cynulliad nad oedd hi'n ymddangos fod y math o orchuddion plastig a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru.