Cynnydd o 50% yn nifer y myfyrwyr sy'n 'twyllo' ym mhrifysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Person yn defnyddio cyfrifiadurFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynnydd o 50% wedi bod yn nifer yr achosion o dwyllo honedig ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgolion Cymru.

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Radio Wales drwy'r ddeddf rhyddid gwybodaeth yn dangos bod ffigyrau wedi cynyddu o 1,370 i 2,044 ym mlynyddoedd academaidd 2013/14 a 2015/16.

Mae arbenigwr mewn llên-ladrad yn dweud bod prifysgolion "wedi cael eu dal ar y droed ôl" gan dechnoleg a'u bod yn ymladd yn erbyn diwylliant o gopïo.

Mae Undeb y Myfyrwyr, yr NUS, wedi dweud bod y ffigyrau yn achos "pryder."

Dywedodd llefarydd: "Mae'n bwysig cofio nad yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ymhel â thwyll academaidd o gwbl.

"Ond mae'r rheiny sydd yn twyllo, wedi dweud wrthym mai oherwydd pwysau gwaith maen nhw'n dewis gwneud a'i bod methu dod o hyd i'r gefnogaeth sydd angen arnyn nhw."

Ar y Post Cyntaf, ychwanegodd Liam Evans o Undeb yr NUS: "Rhaid cofio bod pob un ffigwr yn cynrychioli myfyriwr unigol sydd siŵr o fod angen cymorth oherwydd pwysau gwaith.

"Wrth i bwysau gwaith gynyddu gan Brifysgolion, rhaid i'r gefngoaeth godi. Un ateb dwin meddwl yw sicrhau nad yw dyddiad cyflwyno pob gwaith yn union ar yr un pryd."

'Sefyllfa anodd'

Yn y tair blynedd academaidd o 2013-14 ymlaen, fe gafodd 98 myfyriwr o wyth prifysgol yng Nghymru eu gwahardd rhag sefyll arholiadau pellach yn dilyn cyhuddiadau o lên-ladrad neu gyd-gynllwynio.

Dywedodd yr arbenigwr ar lên-ladrad, Dr Mike Reddy: "Mewn ffordd ry' ni'n dal i asesu mewn ffordd debyg i'r 19eg ganrif, 'ysgrifennu traethawd, ysgrifennu adroddiad', ond mae pobl sy'n rhan o'n system ni nawr erioed wedi byw heb fynediad i'r we."

"Felly mae'n rhaid i ni adlewyrchu'r newidiadau yma a chymryd mantais o dechnoleg newydd,

"Dwi'n credu'n gyffredinol mae prifysgolion yn cael eu dal ar y droed ôl

"Efallai bod y bobl yn dod o gefndir ble mae copïo yn dderbyniol," meddai.

Ychwanegodd bod rhai darlithwyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd: "Ni ddylai fod yn system monitro a chosbi yn unig, mae hynny yn berthynas wael.

"Dwi ddim eisiau i'r myfyrwyr dwi'n gyfrifol amdanyn nhw fy ngweld fel heddwas, dwi eisiau iddyn nhw weld fi fel cyd-weithiwr.

"Mae'n ddyletswydd ar brifysgolion i gymryd gofal o'i myfyrwyr, os yw myfyriwr yn mynd oddi yma gyda gradd 2:1, mae'n rhywbeth maen nhw wedi gweithio amdano, ac wedi'i haeddu, nid yn rhywbeth maen nhw wedi ei gael drwy gopïo gwaith", meddai.

Ffigyrau Prifysgolion Cymru rhwng 2013/14

  • Prifysgol De Cymru (oddeutu 30,000 o fyfyrwyr): Fe gafodd 1,144 eu cyhuddo o dwyllo a dau eu gwahardd rhag sefyll arholiadau yn y dyfodol,

  • Prifysgol MET Caerdydd (10,500 myfyriwr): Fe gafodd 565 eu cyhuddo o dwyllo a 12 eu gwahardd rhag sefyll arholiadau yn y dyfodol,

  • Prifysgol y Drindod Dewi Sant (11,000 myfyriwr): Fe gafodd 928 eu cyhuddo o dwyllo a 47 eu gwahardd rhag sefyll arholiadau yn y dyfodol,

  • Prifysgol Bangor (10,000 myfyriwr): Fe gafodd 36 eu cyhuddo o dwyllo, a phedwar eu gwahardd rhag sefyll arholiadau yn y dyfodol,

  • Prifysgol Caerdydd (30,000 myfyriwr): Fe gafodd 713 eu cyhuddo o dwyllo a tri eu gwahardd rhag sefyll arholiadau yn y dyfodol,

  • Prifysgol Abertawe (20,000 myfyriwr): Fe gafodd 1,157 eu cyhuddo o dwyllo a 25 eu gwahardd rhag sefyll arholiadau yn y dyfodol,

  • Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam (6,000 myfyriwr): Fe gafodd 103 eu cyhuddo o dwyllo a tri eu gwahardd rhag sefyll arholiadau yn y dyfodol,

  • Prifysgol Aberystwyth : Fe gafodd 551 eu cyhuddo o dwyllo a chafodd na neb waharddiad rhag sefyll arholiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw twyllo mewn unrhyw ffordd yn dderbyniol ac mae'n fygythiad i safon ein prifysgolion yn ogystal ag unigolion a chyflogwyr yn enwedig dilysrwydd y radd sydd wedi'i hennill".

Mae prifysgol Cymru wedi ymateb i'r ffigyrau drwy ddweud eu bod yn cymryd y broblem yn "hynod o ddifrifol" a bod "gweithredoedd cadarn" mewn lle gyda " datblygiadau mewn systemau adnabod llên-ladrad" yn golygu bod pobl yn cael eu darganfod yn haws.