Adnewyddu Velodrome gwerth £550,000 yn y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
Velodrome

Mae'r gwaith wedi dechrau ar adnewyddu y velodrome yng Nghaerfyrddin.

Daw'r arian ar gyfer y prosiect i adnewyddu'r cwrs rasio beics, sef tua £580,000, oddi wrth Chwaraeon Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tre Caerfyrddin.

Mae'r rheiny sy'n gyfrifol am y cynllun yn gobeithio y bydd y trac ar gael i aelodau'r cyhoedd yn ogystal ag aelodau clybiau beiciau lleol ac athletwyr proffesiynol.

Doedd yr hen Velodrome, gafodd ei agor yn 1900, ddim yn cael ei ddefnyddio oherwydd nad oedd yn ddiogel.

Bydd dros 230 o'r paneli concrid presennol yn cael eu codi gyda phaneli newydd yn cael eu gosod, a bydd yna ffens diogelwch newydd hefyd yn cael ei chodi o amgylch y maes.