Degau'n gwrthwynebu codi peilonau ar draws Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r proteswyr ym Mhentir fore Llun

Daeth degau o brotestwyr i is-orsaf drydan yng Ngwynedd i wrthwynebu cynlluniau i adeiladu peilonau ar Ynys Môn.

Bwriad y National Grid ydy codi peilonau ar draws yr ynys i Bentir ger Bangor os yw atomfa Wylfa Newydd yn cael ei hadeiladu.

Maen nhw'n dweud bod gosod peilonau'n rhatach na cheblau tanddaearol.

Ond yn ôl protestwyr ddydd Llun dydy'r Grid ddim yn gwrando ar drigolion lleol.

'Monopoli mawr, mawr'

Dywedodd un o drefnwyr y brotest, Dafydd Idriswyn Jones o fudiad Unllais Môn, bod y National Grid yn "fonopoli mawr, mawr cryf" sydd "ddim yn gwrando".

Ychwanegodd ar raglen Y Post Cyntaf: "Mi fyddan nhw'n datgan cyn hir beth eu cynlluniau terfynol cyn hir ac mae'n rhaid i ni ddwyn pwysa' mawr mawr arnyn nhw i newid - fel maen nhw wedi gwneud yn Ardal y Llynnoedd."

Yn ôl un o'r protestwyr, Jean Marshall, fe fyddai'r peilonau yn "anharddu'r ynys" ac yn cael "effaith ar fusnes".

Dywedodd hefyd mai "ychydig iawn fyddai'r gost o roi'r ceblau dan ddaear" yng ngyd-destun ariannol y National Grid.

Ffynhonnell y llun, Google/National Grid
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y National Grid nawr ydy adeiladu twnnel o dan y Fenai a pheilonau ar draws y tir

Mewn datganiad, dywedodd y National Grid eu bod wedi bod yn trafod "ein cynlluniau gyda phobl Môn [...] am bron i saith mlynedd nawr ac wedi cynnal nifer o ymgynghoriadau".

Yn ôl y llefarydd, mae barn gyhoeddus "wedi dylanwadu rhai penderfyniadau sylweddol, gan gynnwys ein cynllun i adeiladu twnnel i fynd â cheblau o dan Afon Menai."

Ychwanegodd eu bod wedi derbyn 1,800 ymateb i'w hymgynghoriad diwethaf a'u bod yn "ystyried y rhain yn ofalus ac yn drylwyr".

Mae'r Grid yn bwriadu cyflwyno eu cais i'r awdurdodau cynllunio yn yr hydref.