Cynnal profion ar gladin Ysbyty Singleton yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Singleton, AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion yn pwysleisio nad yw'r cladin ar Ysbyty Singleton yn fflamadwy

Bydd arbenigwyr yn cynnal profion ar y deunydd sy'n gorchuddio ysbyty yn Abertawe yn sgil tân Tŵr Grenfell yn Llundain.

Ond mae swyddogion yn pwysleisio nad yw'r cladin ar Ysbyty Singleton yn fflamadwy a'i fod yn gynnyrch gwahanol i'r un oedd ar y tŵr.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg y bydd rhan o orchudd yr ysbyty yn cael ei symud i gael ei archwilio gan arbenigwyr.

Mae'r bwrdd yn addo gweithredu ar frys petai'r arbenigwyr yn codi pryderon.

Gwario £3m

Rhwng 2010 a 2012 cafodd £3m ei wario ar adnewyddu Ysbyty Singleton - gwaith a oedd yn cynnwys goruchuddio'r adeilad â phaneli wedi'u hinswleiddio.

Bwriad y cladin oedd cadw'r ysbyty yn gynnes yn y gaeaf a chadw'r gwres allan yn yr haf. Y nod oedd arbed £10,000 mewn biliau tanwydd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg: "Mae'n holl adeiladau yn cydymffurfio â rheolau tân a diogelwch ac wedi pasio profion yr awdurdod tân a rheolau adeiladu."

'Adolygiad brys'

Ymhellach i'r gorllewin, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd wedi bod yn adolygu eu mesurau diogelwch yn sgil trychineb Grenfell.

"Rydyn ni wedi cynnal adolygiad brys o'n holl adeiladau sydd â chladin fel rhan o'n hasesiad risg tân ar ein stad," meddai Joe Teape, cyfarwyddwr gweithrediadau'r bwrdd iechyd.

"I gydfynd â'r casgliadau hynny, rydyn ni'n adolygu ein mesurau diogelwch tân ac yn adrodd yn llawn i Lywodraeth Cymru."

Mae BBC Cymru yn dal i aros am atebion i nifer o gwestiynau gan fyrddau iechyd eraill Cymru.