Cymraeg ar 'Love Island'
- Cyhoeddwyd
Nos Lun, 24 Gorffennaf fe enillodd Amber Davies o Ddinbych a'i phartner Kem y gyfres Love Island ar ITV2. Fe wnaeth y gwylwyr eu dewis nhw fel eu hoff gwpwl, ac maen nhw'n gadael yr ynys yn rhannu gwobr o £50,000.
Ar y rhaglen nos Sul, cyrhaeddodd rhieni Amber y fila i gefnogi eu merch, ac roedden nhw wedi eu plesio gyda'i phartner Kem.
Mae gwylwyr y gyfres wedi gweld Kem yn dysgu brawddegau Cymraeg dros y dyddiau diwethaf, a chafodd gyfle i'w hymarfer gyda Hefin, tad Amber ar y rhaglen. Dywedodd pa mor falch oedd e i gyfarfod â'i thad a'i fod mewn cariad â'i ferch.
Felly wrth i Amber ffarwelio â'r ynys wedi deufis, beth nesa' i'r ddawnswraig o Ddinbych sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Twm o'r Nant ac Ysgol Glan Clwyd?
Roedd Leah Owen yn dysgu Amber Davies yn yr ysgol gynradd ac yn ei hyfforddi i ganu mewn Eisteddfodau. Bu'n siarad â Cymru Fyw ym mis Mehefin:
"Mae Amber yn eneth annwyl iawn ac yn dalentog. O'n i'n ei dysgu hi yn Ysgol Twm o'r Nant ac yn rhoi gwersi canu iddi hi a'i chwaer Jade. Mae'r ddwy ohonyn nhw'n gantorion arbennig, â thinc hyfryd i'w lleisiau.
"Mae Amber wedi ennill am gystadlu yn yr Urdd a roedd hi'n aelod o bartïon a chorau gen i dros y blynyddoedd. Fe ddewisais i ferched oedd yn wirioneddol dda, ac roedd Amber yn un ohonyn nhw, i ganu'n y grŵp Enfys, ac roedd hi'n aelod gwerthfawr iawn, iawn.
"I mi, merch tawel a swil oedd hi ac mae'n anodd credu hynny o'i gweld ar y rhaglen. Dwi erioed di clywed Amber yn rhegi o'r blaen a dwi'n meddwl "Mam bach" ond dyna ni!
"Byswn i ddim 'di credu y bysai'n mynd ar Love Island, ond ddim fy lle i ydy barnu, mae rhwydd hynt i bawb wneud fel y gwelan nhw.
"Fe ges i bach o sioc o'i gweld hi i ddechrau ond rwan dwi'n hooked. Dydy o ddim y math o raglen y byswn i'n ei wylio fel arfer, ond dwi'n gwylio fo am fod gen i ddiddordeb gweld Amber. Dwi'n poeni amdani i ddweud y gwir, os dwi'n ei gweld hi'n crio ar y teledu dwi'n meddwl 'o Amber fach, tyd o 'na!'
"Dwi ddim eisiau ei beirniadu hi o gwbwl, mae'n ferch mor dalentog, gall hi wneud argraff mewn unrhyw faes. Dwi'n gobeithio yn fawr y deith hi o 'na yn hapus, mae ganddi gwir dalent felly fy ngobaith i yw yr eith hi'n nôl at y canu a'r dawnsio.
"Fydda i'n edrych ymlaen i'w gweld hi pan ddaw hi adre a rhoi cwtsh mawr iddi a dweud, reit 'te yn ôl at y canu rŵan!"