'Diffyg gwerthuso' cynllun ariannu ysgolion tlawd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Cynulliad wedi codi pryderon ynglyn â'r penderfyniad i gael gwared â chynllun sy'n rhoi miliynau o bunnau'n ychwanegol i ysgolion mewn rhai o ardaloedd tlota Cymru.
Daeth cadarnhad fis Hydref diwethaf na fyddai cynllun Her Ysgolion Cymru yn cael ei ariannu tu hwnt i eleni.
Ond yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, Lynne Neagle, cafodd y penderfyniad ei wneud cyn i'r cynllun gael ei werthuso'n llawn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai cynllun dros dro oedd Her Ysgolion Cymru i gyflymu cynnydd yr ysgolion ac i ledu arfer da.
'Gweddnewid addysg'
Cafodd cynllun Her Ysgolion Cymru ei gyflwyno yn 2014 wedi cynlluniau tebyg yn Llundain a Manceinion.
Y bwriad oedd gwella perfformiad 40 o ysgolion yng Nghymru oedd yn tanberfformio.
Wrth gyhoeddi yn 2014 pa ysgolion fyddai'n cael cyfran o'r rhaglen £20m y flwyddyn, dywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis, y byddai'r polisi "yn gweddnewid cyflwr addysg yng Nghymru".
Dangosodd ffigurau yn 2015 bod perfformiad mwyafrif yr ysgolion wedi gwella ond bod eraill ddim wedi gweld cynnydd.
Cafodd Kirsty Williams ei phenodi yn Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru ym Mai 2016.
Perfformiad Her Ysgolion Cymru
Mae ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod perfformiad TGAU ysgolion sy'n rhan o'r cynllun wedi gwella ar gyfradd uwch nag ysgolion eraill mewn Saesneg, Cymraeg a Mathemateg rhwng 2014 a 2016:
Roedd cynnydd o 5.5% yn y myfyrwyr gafodd A* i C mewn TGAU Saesneg yn y 40 ysgol, o'i gymharu â 3.5% mewn ysgolion eraill.
Yn Mathemateg roedd gwelliant o 7.9% o'i gymharu â 5.6%.
Mewn Gwyddoniaeth, cwympodd perfformiad ysgolion Her Ysgolion Cymru o 1.7%, tra gwelodd ysgolion eraill gynnydd bach.
Ymhlith plant sy'n derbyn prydau am ddim, roedd ysgolion nad oedd yn rhan o'r cynllun wedi perfformio'n well mewn TGAU Cymraeg a Saesneg.
Pan gafodd y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi yn Hydref 2016, nid oedd cyllid ar gyfer y cynllun tu hwnt i 2017.
Mae disgwyl i adroddiad sy'n gwerthuso Her Ysgolion Cymru gael ei gyhoeddi fis nesaf.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle fod y pwyllgor wedi "codi pryderon am y penderfyniad i ddod â'r rhaglen i ben cyn i'r rhaglen gael ei gwerthuso'n llawn".
Bydd y pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i bolisïau'r llywodraeth sy'n targedu arian er mwyn gwella perfformiad dysgwyr penodol, gan gynnwys Her Ysgolion Cymru.
Dywedodd llefarydd fod Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cynnydd mae ysgolion wedi gwneud, ond yn dweud mai cynllun dros dro oedd Her Ysgolion Cymru, "i gyflymu cynnydd yn yr ysgolion ac i greu gwersi i gynnal gwelliannau yn y system ehangach".
Mae sylfaenydd y cynllun, Mel Ainscow wedi canmol cynnydd "hynod" yr ysgolion.