Prosiect Rheilffordd Gwili yn cyrraedd pen y daith

  • Cyhoeddwyd
Yr orsaf newydd yn Abergwili
Disgrifiad o’r llun,

Dadorchuddio'r orsaf newydd yn Abergwili

Ar ôl prosiect 15 mlynedd mae'r estyniad newydd o Reilffordd Gwili yn Sir Gaerfyrddin yn agor i'r cyhoedd ddydd Sul.

Mae'n golygu y bydd pobl sy'n teithio ar y trên stêm yn mwynhau golygfeydd sydd heb eu gweld am bron i 50 mlynedd.

Mae'r gwaith gan wirfoddolwyr Rheilffordd Gwili wedi gweld hyd y rheilffordd yn cael ei ymestyn 1.75 milltir, gan ddyblu'r hyd presennol.

Bydd teithwyr nawr yn gallu teithio o'r orsaf ym Mronwydd i Abergwili, ar gyrion tref Caerfyrddin.

Gwaith ar yr estyniad newydd

  • 1.75 milltir o hyd

  • 300 rhan o drac

  • 4,000 o drawstiau concrit

  • 5,000 tunnell o falast.

Disgrifiad o’r llun,

Y trên cyntaf o Fronwydd i Abergwili

Dywed y rhai tu ôl i'r fenter bod cynlluniau i agor canolfan ymwelwyr ar safle'r orsaf newydd.

Cafodd y cledrau gwreiddiol, oedd yn ymestyn ar hyd hen ran ddeheuol y lein o Gaerfyrddin i Aberystwyth, eu cau i deithwyr yn 1965 yna eu codi yn 1977.

Mae'r gwaith o adfer y lein wedi costio tua £300,000 ac mae yna gyfraniadau ariannol sylweddol wedi bod gan gwmni Cwm Environmental a Chyngor Sir Caerfyrddin.