Lleoliad newydd i ŵyl Gymraeg Tafwyl ar gaeau Llandaf

  • Cyhoeddwyd
Tafwyl 2017Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefnwyr yn dweud fod dros 20,000 wedi dod i'r ŵyl dydd Sadwrn

Wrth i benwythnos olaf gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd gyrraedd ei phenllanw ar gaeau Llandaf, mae'r trefnwyr yn dweud fod dros 20,000 o bobl wedi ymweld â'r ŵyl ddydd Sadwrn, sydd yn record newydd.

Cafodd digwyddiadau eu cynnal gydol yr wythnos mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis, bariau a chanolfannau celf, cyn y prif ddigwyddiad ar gaeau Llandaf dros y penwythnos.

Mae digwyddiadau'r penwythnos olaf eleni yn cael eu cynnal ar gaeau Llandaf, gan nad oedd tir y castell ar gael, a hynny oherwydd trefniadau Cynghrair y Pencampwyr fis diwethaf.

Gŵyl flynyddol gan Fenter Caerdydd yw Tafwyl a'r nod yw dathlu y celfyddydau a'r diwylliant Cymraeg.

'Hynod o gyffrous'

Cafodd Tafwyl ei sefydlu 11 mlynedd yn ôl yn 2006, ac yn 2012 symudodd yr ŵyl o dafarn y Mochyn Du i Gastell Caerdydd, a daeth yn rhan o becyn Gŵyl Caerdydd.

Y llynedd ymwelodd 36,500 â'r ŵyl, sy'n cynnig cerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod.

"Mae'n barti mawr Cymraeg," medd y trefnwyr, "ac mae 'na wahoddiad i bawb!"

Ffynhonnell y llun, TAFWYL
Disgrifiad o’r llun,

Castell Caerdydd yw lleoliad arferol yr ŵyl yng Nghaerdydd

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alys Williams yn perfformio dros y penwythnos

Dywed Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Rydym ni'n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Tafwyl eleni gydag arlwy amrywiol sy'n dathlu geiriau y tu hwnt i gloriau llyfrau. Mae amserlen Y Lolfa Lên eleni'n hynod o gyffrous.

"Bydd gwledd o awduron, beirdd ac arlunwyr ifanc sy'n creu enw i'w hunain yn rhyngwladol, heb anghofio un o ffigyrau fwyaf eiconig Cymru, Geraint Jarman, yn barod i brocio, ysbrydoli a diddanu."

Ymhlith y perfformwyr bydd Yws Gwynedd, Geraint Jarman, Alys Williams, Candelas, Meic Stevens, Geraint Lovgreen a nifer eraill.

Yn ogystal, bydd nifer o ddigwyddiadau celfyddydol yn Y Lolfa Lên ac amrywiaeth o stondinau. Mae'r trefnwyr yn sicrhau y bydd yna ddigon o fwyd a diod - gan gynnwys y Cavavan sydd wedi'i phaentio gan Mared Lenny - yr artist o Gaerfyrddin sy'n gwella o ganser.

Disgrifiad o’r llun,

Ynghanol y stondinau bydd y Cavavan, gafodd ei addurno gan Mared Lenny

Dywedodd y trefnwyr: "Mae'n ddigwyddiad rhad ac am ddim sy'n agored i bawb - yn siaradwr Cymraeg neu beidio.

"Mae'n ddigwyddiad gwych i ddysgwyr a phobl sy'n awyddus i gael eu blas cyntaf o'r iaith a diwylliant Gymraeg.

"Mae Tafwyl yn ddathliad hyfryd o'r iaith Gymraeg ac mae'n dangos ein diwylliant ar ei orau."