Anogaeth i brofi adeiladau tal preifat wedi tân Tŵr Grenfell

  • Cyhoeddwyd
Grenfell TowerFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn nifer o archwiliadau diogelwch wedi tân Tŵr Grenfell

Mae perchnogion adeiladau preifat uchel yn cael eu hannog i fanteisio ar y profion cladio sydd ar gael am ddim.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â landlordiaid Rhentu Doeth Cymru i ddweud wrthyn nhw bod hawl ganddyn nhw gael yr un profion i'w heiddo â'r sector tai cymdeithasol.

Yn gyfreithiol, does dim rhaid i landlordiaid gynnal y profion.

Ond y mae Cymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi eu hannog i "beidio â chymryd dim yn ganiatáol" ac i "weithredu".

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i berchnogion tai cymdeithasol sydd â chladin yn cynnwys y deunydd alwminiwm ACM - tebyg i'r un yn Nhŵr Grenfell - i sicrhau bod profion yn cael eu cynnal arno yn yr un lle â phrofion Lloegr.

Methu profion

Mae gorchudd dros gant o adeiladau tal yn Lloegr wedi methu'r profion.

Mewn e-bost sydd wedi cael ei anfon at landlordiaid Rhentu Doeth Cymru, dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio cysylltu â landlordiaid preifat blociau saith llawr neu uwch.

Meddai: "Rydyn ni wrthi nawr yn gweithio gyda Llywodraeth Leol er mwyn sicrhau bod pawb sy'n byw mewn blociau uchel yn y sector preifat wedi'u diogelu yn yr un modd rhag unrhyw risgiau diangen.

"Mae cydweithwyr gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llywodraeth leol yn ein cynorthwyo ni i ddod o hyd i unrhyw flociau preswyl sydd â 7 llawr neu ragor fel y gallwn sicrhau bod rhydd-ddeiliaid a/neu asiantau rheoli yn derbyn yr un cyfarwyddyd a'r cyfle i gymryd rhan yn y profion â'r sector tai cymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau a chymdeithasau tai yn cael eu hannog i brofi gorchudd blociau uchel

Mae'r e-bost yna'n dweud : "Nodwch, fel perchennog uned neu unedau unigol mewn bloc o fflatiau o'r fath, nad oes angen i chi gymryd camau uniongyrchol mewn perthynas â'r cladin. Mae'n bosibl fodd bynnag y byddwch am gael sicrwydd i chi eich hun ac i'ch tenantiaid ynghylch agweddau eraill ar ddiogelwch tân."

Dywedodd Douglas Haig, is-gadeirydd a chyfarwyddwr Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cymru ei fod yn beth prin i landlordiaid fod yn berchen ar floc cyfan o fflatiau.

Ond dywedodd: "Mae tân Tŵr Grenfell yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw diogelwch tân.

"Peidiwch â chymryd dim yn ganiatáol. Hyd yn oed os ydych yn landlord preifat gydag un fflat mewn adeilad - gofynnwch i'ch rheolwyr beth maen nhw'n ei wneud.

"O dan y gyfraith, does dim rhaid iddyn nhw wneud dim ond eto rhaid iddynt fod yn gyfrifol am ddiogelwch."