Geraint Thomas yn ennill cymal cynta'r Tour de France

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yw'r Cymro cyntaf erioed i wisgo crys melyn y Tour de France

Mae Geraint Thomas o Team Sky wedi cipio'r crys melyn ar ddiwrnod cyntaf y Tour de France.

Fe gwblhaodd y Cymro 32 oed o Gaerdydd y cymal cychwynol yn Dusseldorf mewn 16 munud 4 eiliad, 12 eiliad o flaen pencampwr y llynedd, ei gyd aelod yn Team Sky, Chris Froome.

Dyma'r tro cyntaf i Thomas ddod i'r brig yn un o gymalau'r gystadleuaeth hon, nag unrhyw un o'r prif bencampwriaethau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n ddechrau gwych iddo, yn enwedig o ystyried iddo orfod rhoi'r gorau i'w ras yn y Giro d'Italia fis Mai, ar ôl cael ei anafu'n ddrwg mewn damwain.

Mewn cyfweliad ar ITV4 yn dilyn y ras, dywedodd: "Mae'n afreal, dyma ddechrau fy wythfed Tour, a'r cymal cyntaf i mi ei ennill.

"Wnes i ddim breuddwydio y byddai hyn yn digwydd. Mae'n anghredadwy."