Cylchffordd Cymru: £1.7m i gyfarwyddwr?
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif gyfranddaliwr y tu ôl i gynllun Cylchffordd Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai wedi derbyn £1.7m pe byddai'r prosiect wedi'i gwblhau.
Dywedodd Michael Carrick ei fod yn derbyn y byddai wedi derbyn llawer o arian, ond amddiffynnodd hyn gan ddweud ei fod yn adlewyrchiad o saith mlynedd o waith di-dâl.
Mae cyfarwyddwyr y cynllun eisiau cyfarfod ag Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates cyn gynted â phosib, gan fynnu ei fod yn "brosiect rhy bwysig i gerdded i ffwrdd oddi wrtho".
Maen nhw'n dweud hefyd y gall y cynllun weithio ar y cyd â bwriad Llywodraeth Cymru o adeiladu parc busnes gwerth £100m ger Glyn Ebwy.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod gwarantu £210m ar gyfer y cynllun yr wythnos diwethaf oherwydd y risg i'r trethdalwr.
'Bwriad pendant'
Dywedodd Mr Carrick: "Rwy'n meddwl bod yna fwriad pendant i wneud hyn. Rwy'n meddwl ein bod ni oll angen rhoi swm enfawr o egni ac arian i wneud i hyn weithio.
"Byddwn ni eisiau datrysiad sy'n galluogi i gannoedd o filoedd o bunnau o arian preifat i symud i'r cymoedd."
Dywedodd Mr Skates yr wythnos diwethaf y byddai'r gost o warantu'r cynllun yn rhy uchel, ac y byddai'n effeithio'n uniongyrchol ar gynlluniau gwariant eraill y llywodraeth.
Ond mynnodd Mr Carrick mai'r rheswm y cafodd y cais am warant ei wrthod oedd am nad oedd y llywodraeth eisiau'r arian ar eu llyfrau nhw, a bod "datrysiad" i hyn.
Does dim sylw wedi bod ar y mater gan Lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017