Ken Skates: Cylchffordd Cymru yn brosiect preifat nawr

  • Cyhoeddwyd
Cylchffordd CymruFfynhonnell y llun, Cylchffordd Cymru

Mae angen i Gylchffordd Cymru barhau heb gefnogaeth arian cyhoeddus, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Daeth sylwadau Mr Skates yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i beidio gwarantu'r prosiect gyda £210m o arian cyhoeddus.

Fe ddywedodd datblygwyr y trac rasio eu bod yn gobeithio y gallai'r llywodraeth ail-ystyried y cynllun ger Glyn Ebwy.

Ond mae Mr Skates wedi gwrthod hynny, gan ddweud: "Mae'n brosiect i'r sector preifat nawr."

Ychwanegodd: "Byddai'n rhaid i dîm Cylchffordd Cymru gyflwyno prosiect sydd wedi ei ariannu gan y sector preifat, a fyddai yn gallu sefyll ar ei phen ei hun heb alw am adnoddau cyhoeddus."

Parc busnes

Yn ôl Mr Skates, mae'r llywodraeth yn canolbwyntio ar ddatblygu parc busnes ar gyfer y diwydiant moduro yng Nglyn Ebwy.

Mae'r llywodraeth yn honni y gallai'r cynllun £100m greu 1,500 o swyddi.

Dywedodd: "Rydym yn gwneud yn siŵr y gallwn greu clwstwr o gwmnïau technoleg o safon uchel, a hynny mewn rhan o Gymru lle mae angen creu mwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.

"Mae'n rhaid iddo ddigwydd cyn bo hir felly dyna pam 'da ni'n gweithredu yn syth."

Dydd Llun apeliodd sylfaenydd Cylchffordd Cymru, Michael Carrick, am newid agwedd gan y llywodraeth, gan ddweud bod y prosiect yn "rhy bwysig" i'w wrthod.

Datgelodd Mr Carrick hefyd y byddai wedi derbyn £1.7m yn sgil cytundeb i fwrw 'mlaen â'r prosiect.