Achos Janet Commins: Dyn aeth i'r carchar 'yn ddieuog'

  • Cyhoeddwyd
Janet ComminsFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Janet Commins yn 15 oed pan fu farw yn 1976

Mae dyn sydd wedi treulio cyfnod yn y carchar am ddynladdiad merch ysgol yn Y Fflint wedi gwadu mai fe oedd yn gyfrifol.

Roedd Noel Jones yn 18 oed pan gafodd ei arestio am lofruddiaeth Janet Commins yn Y Fflint yn 1976.

Yn hwyrach fe blediodd yn euog i'w dynladdiad, ac fe gafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar.

Ond yn rhoi tystiolaeth yn achos llys dyn sydd wedi ei gyhuddo o'i llofryddio, dywedodd nad oedd "yn adnabod Janet Commins hyd yn oed".

'Ddim yn ei hadnabod'

Treuliodd Mr Jones chwe blynedd dan glo, a dyw erioed wedi herio'r euogfarn yn ei erbyn.

Roedd yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yr achos yn erbyn Stephen Hough, 58 oed, sy'n wynebu cyhuddiadau o dreisio, ymosod yn rhywiol a llofruddio Janet Commins.

Gofynnodd yr erlynydd wrth Mr Jones a wnaeth ladd Janet Commins. Atebodd: "Naddo syr, 'nes i ddim."

Gofynnodd yr erlynydd os oedd wedi ymosod arni.

Atebodd: "Na syr. Doeddwn i ddim yn adnabod Janet Commins hyd yn oed."

Ffynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Hough (dde) yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Mewn ymddangosiad ar gyswllt fideo dywedodd Mr Jones, sy'n defnyddio enw gwahanol erbyn hyn, iddo gael ei arestio wrth iddo ddod allan o dafarn yn 1976.

Ar y pryd nid oedd yn gwybod pam iddo gael ei arestio, meddai.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd i mi.

"Roeddwn i ar goll, roedd popeth yn digwydd mor gyflym a roedden nhw yn dweud 'Ti wnaeth e, ti wnaeth e'."

Dywedodd bod yr heddlu yn ei "fombardio a chwestiynau" a'i fod yn "cytuno i beth bynnag roedden nhw yn dweud".

Clywodd y llys fod Mr Jones yn hanu o gymuned Sipsi, ac nad oedd yn gallu darllen nac ysgrifennu ar ôl gadael yr ysgol.

"Roeddwn i yn teimlo oherwydd fy mod yn Sipsi roedden nhw yn manteisio arna i. Roedd y cwestiynu yn parhau hyd nes i mi gytuno hefo nhw. Roeddwn i'n ffitio'r bil."

Llofnodi datganiad

Wrth gael ei groesholi, gofynodd Patrick Harrington QC i Mr Jones pam nad oedd e wedi newid ei ddatganiadau pan gafodd gymorth gan gyfreithiwr am y tro cyntaf.

Gofynodd Mr Harrington hefyd pam fod Mr Jones wedi llofnodi datganiad hir a manwl o fewn ychydig oriau iddo gael ei arestio, nid, fel oedd yn cael ei honni ganddo, rai dyddiau yn ddiweddarach wedi pwysau gan yr heddlu.

Dywedodd Mr Jones ei fod "wedi ei lofnodi, ond nad oeddwn i'n gwbod beth oedd wedi ei ysgrifennu arno".

Mae Stephen Hough yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn. Mae'r achos yn parhau.