Teimlo fel dathliad

  • Cyhoeddwyd
gŵyl arall

Mae tymor y gwyliau Cymreig ar ei anterth. Wedi llwyddiant Tafwyl yng Nghaerdydd ar benwythnos 1-2 Gorffennaf, tro Caernarfon a Llangrannog fydd hi'r penwythnos hwn.

Unwaith eto mae disgwyl i'r pentre glan môr yng Ngheredigion fod o dan ei sang ar gyfer Gŵyl Nôl a Mla'n a bydd strydoedd tre'r Cofi yn ferw gwyllt o weithgareddau ar gyfer Gŵyl Arall, arall!

Dros y blynyddoedd mae ambell i ŵyl Gymraeg wedi diflannu o'r calendr, sut felly mae cynnal y diddordeb a sicrhau bod y digwyddiadau blynyddol yn mynd o nerth i nerth? Cafodd Cymru Fyw air gyda Nici Beech, un o drefnwyr prysur Gŵyl Arall.

Cyfuniad o raglen o ddigwyddiadau cyffrous ac atyniadol sydd ag apêl i ddenu digon o bobl, dyna'r gyfrinach am ŵyl dda. Mae tywydd braf yn help i roi gwên ar wynebau pobl ac yn help mawr efo gwyliau tu allan.

Mae'n bwysig bod gŵyl yn teimlo fel dathliad. Yn y ddwy flynedd dwytha' 'da ni wedi bod yn ceisio gwneud mwy o waith addurno ar draws yr ŵyl. Eleni, yn ogystal â'r tîm o drefnwyr, 'da ni wedi cydweithio efo CARN, sef grŵp o artistiaid lleol a Cofis Bach i addurno'r lleoliadau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gweithdy iwcalele wedi taro tant yng Ngŵyl Arall y llynedd

Yn wahanol i Tafwyl, rydyn ni yn defnyddio adeiladau o gwmpas tref Caernarfon. Mae'n golygu nad oes rhaid poeni gormod o flaen llaw am y tywydd, ac mae'n ffordd o gadw'r costau i lawr.

Er ein bod ni wedi sefydlu Gŵyl Arall ers naw mlynedd bellach, mae pob un yn cario elfen o risg gan ein bod ni'n dibynnu ar werthiant tocynnau i dalu amdani, ond dan ni'n gwneud yn siŵr bod y rhaglen yn wych, a bod pobl yn cael y wybodaeth am be sy'n digwydd.

Mae sylw'r cyfryngau, er enghraifft rhaglenni radio a theledu yn darlledu o ŵyl, straeon mewn cylchgronau ac ar wefannau ac ati yn amlwg yn help i gynnal diddordeb, ond mae pobl yn siarad rhwng ei gilydd yr un mor bwysig ac mae pawb sydd wedi gweld y rhaglen eleni yn dweud mai hon ydi'r orau eto, felly mae hynny'n galonogol iawn!

Dim niferoedd uchel ydy'r ffordd orau o fesur llwyddiant bob tro, mae gwerthfawrogiad y rhai sy'n dod i fwynhau ac i gymryd rhan yr un mor bwysig. Mae dipyn llai yn dod i Gŵyl Arall na Thafwyl, ond mae digonedd o adnoddau gwych yng Nghaernarfon i'r rhai sy'n dod yma.

Dwi ddim yn meddwl y bydd Gŵyl Arall yn mynd yn anghenfil rhy fawr, gan ei fod wedi datblygu mor organig. Gobeithio y byddwn ni'n medru cynnal ein 10fed gŵyl yn 2018 ac mae'n bosib iawn y gwnawn ni sbloets chydig fwy bryd hynny - gawn ni weld ar ôl gŵyl eleni!

Mae'n rhaid i mi ddweud mai'r pethau newydd sydd yn fy nghyffroi bob tro am Gŵyl Arall. Felly byddai'n edrych ymlaen at y cyngerdd gwerin efo Elinor Bennett a Vri yn Eglwys Santes Fair nos Wener, a'r pnawn electronig yn Neuadd y Farchnad dydd Sul.

Dw i hefyd yn edrych mlaen at fynd ar y daith labrynth theatrig Mae Gen i Go' sy'n seiliedig ar atgofion pobl Caernarfon a'u synhwyrau.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri