Gweinidog 'am osod safonau iaith ar siopau a banciau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg wedi dweud ei fod o blaid gorfodi archfarchnadoedd a banciau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, yn ôl mudiad iaith.
Cafodd Alun Davies AC gyfarfod ag aelodau Cymdeithas yr Iaith ym mis Mawrth.
Mewn llythyr at y gweinidog ddiwrnod yn ddiweddarach maen nhw'n dweud: "Rydym yn falch eich bod yn breifat ac yn bersonol o blaid cynnwys gweddill y sector breifat yn y mesur."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd cynlluniau yn ymwneud â diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg yn cael eu cyhoeddi yn yr haf.
Comisiynydd
Mae cyrff cyhoeddus fel cynghorau sir eisoes yn gorfod darparu gwasanaethau yn Gymraeg, a bydd cwmnïau dŵr, ynni, bysiau a rheilffyrdd yn gorfod cydymffurfio â safonau iaith yn fuan.
Yn y llythyr mae'r ymgyrchwyr iaith hefyd yn cwestiynu oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i ailddiffinio rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Maen nhw'n dweud: "Pryderwn am eich sylwadau am Gomisiynydd y Gymraeg a'r posibilrwydd o newid y corff i gomisiwn neu fwrdd."
Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod targed y llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2017