Ateb y Galw: Dafydd Hughes

  • Cyhoeddwyd
dafyddFfynhonnell y llun, Picasa

Dafydd Hughes o'r band Cowbois Rhos Botwnnog sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Osian Williams yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

O'n i'n meddwl na Cwpan Pêl-droed y Byd '94 oedd o, ond mi o'n i'n 6 adeg hynny. Dwi'n cofio Iwerddon yn curo'r Eidal a chael lasagne yn Twnti, Rhydyclafdy. Odd o'n neis 'fyd. Ma rhaid bo fi'n cofio 'wbath cyn hynny ond fedrai ddim meddwl - gormod o Calpol ma'n rhaid.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Amanda Protheroe-Thomas.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ma' na ddegau. Dwi ddim isio sôn llawer am y ddamwain ges i mewn glacier yn Y Swistir ar field trip Daearyddiaeth yn form 4 (does 'na ddim tai bach ynddyn nhw!), heblaw am y ffaith fy mod i'n lwcus iawn fy mod i'n gwisgo waterproofs a fy mod i hefyd yn lwcus iawn na chesi nickname cas.

Felly a i am yr adeg lle'r oeddwn i'n perfformio efo Georgia Ruth yng ngŵyl Khala Ghoda yn India, ac mi ddois mewn i'r gân gyntaf un yn chwarae mewn time signature hollol wahanol i be oedd y gân. Mi odd hi'n rhy hwyr i newid unwaith o'n i wedi dechrau!

Ar ôl hynny, mi oedd pobl India yn meddwl fod Georgia Ruth yn chwarae rhyw wacky space music rhyfedd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n grïwr a hanner. Tro diwetha' dwi'n ei gofio ydi trwy gydol Ewro 2016. Dwi hefyd yn crio bob tro dwi'n gwylio'r ffilm Apollo 13.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Llwyth. Smocio, rhegi gormod, bwyta gormod o fferins i enwi dim ond rhai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn un o brif atyniadau Gŵyl Arall yng Nfgahernarfon ar benwythnos 6-9 Gorffennaf

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Tafarn Y Fic, Llithfaen - tafarn gymunedol gydweithredol hynaf Ewrop! Does 'na ddim lle tebyg yn y byd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ac eithrio, yn amlwg, y noson lle nes i gyfarfod fy nghariad, Ffion yng Nghaerdydd, y noson fythgofiadwy lle curodd Cymru Wlad Belg o dair gôl i un.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dim syniad sori!

Beth yw dy hoff lyfr?

The Children Of The Dustgan Louise Lawrence, neu In Cold Blood gan Truman Capote.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Bruce Springsteen, yn Tafarn Y Fic, ar ôl iddo fo chwarae set o dair awr yn y bar. Ia, mi neith hynny yn iawn!

Disgrifiad o’r llun,

Y Cowbois gyda'r gantores, a gwraig Iwan, Georgia Ruth

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Captain Fantastic. Nesh i fwynhau i raddau, mae'r soundtrack yn wych.

Ar dy diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti yn ei wneud?

Mynd lawr yr allt i Nant Gwrtheyrn ar roller skates.

Dy hoff albwm?

Ar y funud, The Mars Volta - Deloused in the Comatorium.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Pasta i bob cwrs, joio pasta! Spaghetti Carbonara fel starter,Seafood Linguini fel prif gwrs a double portion o Mac and Cheese i bwdin.

Disgrifiad o’r llun,

Gobeithio bod Dafydd yn gwisgo ei 'waterproofs' ar y cwch'na!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Cyn ymosodwr Arsenal a'r sylwebydd pêl-droed Ian Wright, a 'swn i'n hitio fy hun yn fy ngwyneb. Twlsyn.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Rhys Aneurin