Galw am gyllid digonol i heddluoedd

  • Cyhoeddwyd
arglwydd wigley

Fe fydd yr Arglwydd Wigley o Blaid Cymru yn cyflwyno mesur aelodau preifat yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Iau yn galw am ariannu heddluoedd Cymru a Lloegr yn ddigonol.

Fe ddywed Plaid Cymru bod cyllid ar gyfer heddluoedd wedi cael ei gwtogi 25% dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd cyn-arweinydd y blaid y bydd ei fesur yn sicrhau fod gan yr heddlu ddigon o adnoddau i wneud eu gwaith craidd, sy'n cynnwys taclo eithafiaeth a sicrhau bod cymunedau'n cael eu cadw'n ddiogel.

Llywodraeth y DU sy'n gosod cyllideb yr heddlu yn flynyddol. Mae mesur yr Arglwydd Wigley yn ceisio adfer y modd y mae'r heddlu'n cael eu cyllid drwy roi cyfrifoldeb newydd ar Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd i gyflwyno amcangyfrif cyllid i'r ysgrifennydd llywodraethol yn amlinellu anghenion y llu.

Os oes gwahaniaeth rhwng amcangyfrif y Comisiynydd a chyllideb y Llywodraeth, byddai'n rhaid cyfeirio hynny at gorff annibynnol am ddyfarniad. Os oes gwahaniaeth o hyd, byddai'n rhaid i'r gweinidog gyfiawnhau hynny i'r senedd.

Fe ddaw'r mesur yn dilyn adroddiad a wnaed i Blaid Cymru gan gyn-swyddogion heddlu sy'n dweud bod toriadau i Dimau Cymunedau Diogelach wedi cyfyngu ar allu'r heddlu i gasglu gwybodaeth am eithafiaeth a throsedd gangiau.

Yn ôl ymchwil am yr arbenigwr trosedd Harry Fletcher, dylai bob tîm fod â 6 aelod gan gynnwys sarjant a dau gwnstabl a bod yn gyfrifol, ar gyfartaledd, am un ward cyngor yr un.

Erbyn hyn, y cyfartaledd yw tri aelod i bob tîm, a'u bod yn gyfrifol am ardal 75% yn fwy.

Fe ddaw'r mesur yn dilyn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher rhwng arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts a'r prif weinidog Theresa May.

Roedd Ms Saville-Roberts yn dadlau y byddai heddluoedd Cymru yn elwa pe byddai cyfrifoldeb amdanyn nhw'n cael ei ddatganoli i Gymru.

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

Dywedodd yr Arglwydd Wigley: "Mae heddluoedd Cymru a Lloegr wedi gweld toriadau cyson i'w cyllidebau sydd heb os wedi lleihau eu gallu i gefnogi gwaith y gwasanaethau diogelwch.

"Rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth, ac eto mae llywodraeth y DU yn ymddangos fel eu bod yn fodlon peryglu diogelwch y cyhoedd.

"Mae fy mesur yn ceisio sicrhau fod gan yr heddlu yr adnoddau angenrheidiol i gyflawni eu dyletswydd i gadw'r cyhoedd yn ddiogel. Byddai'n sicrhau fod cyllidebau'r heddlu yn adlewyrchu eu hanghenion.

"Rwy'n gobeithio bydd fy mesur yn denu cefnogaeth drawsbleidiol heddiw."