AS Plaid yn herio May ar wariant heddlu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Theresa May wedi amddiffyn lefel y gwariant ar yr heddlu yng Nghymru yn dilyn beirniadaeth.
Dywedodd y prif weinidog bod llai o droseddu nag erioed er bod llai o heddweision ar draws Cymru.
Daeth ei sylwadau wedi i arweinydd seneddol Plaid Cymru ddweud bod 750 o swyddogion yn llai nag yn 2010.
Dywedodd Liz Saville-Roberts y byddai lluoedd Cymru £25m yn gyfoethocach pe bai'r Cynulliad yn cael rhedeg yr heddlu yn lle San Steffan.
Yn y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ms May bod ei llywodraeth wedi bod yn "amddiffyn cyllid yr heddlu... ers 2015".
Mynnodd ei bod yn "sicrhau bod gan yr heddlu'r gallu i ddelio gyda mathau newydd o droseddau drwy greu'r Uned Troseddau Seibr a'r Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol".
Fe ychwanegodd: "Mae pob un o'r rhain yn gamau pwysig i sicrhau bod yr heddlu yn medru lleihau nifer y troseddau, ac mae'r nifer hwn yn is nag erioed."
'Pa gyfiawnhad?'
Ond dywedodd Ms Saville-Roberts bod "niferoedd yr heddweision yng Nghymru wedi disgyn 10%" ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym yn San Steffan yn 2010.
"Pe bai plismona wedi'i ddatganoli - fel yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban - byddai gan heddluoedd Cymru gyllid ychwanegol gwerth £25m i'w ddefnyddio," meddai.
"Pa gyfiawnhad sydd 'na dros wrthod datganoli plismona?"
Dywedodd Plaid Cymru mai Heddlu Dyfed-Powys ddarparodd y ffigurau, sy'n dangos y byddai gan heddluoedd Gymru £25m ychwanegol pe bai cyllid yn cael ei bennu ar sail eu poblogaeth - fel sy'n digwydd gyda Fformiwla Barnett.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu newid y ffordd y maen nhw'n ariannu'r heddlu, fyddai'n golygu £32m yn llai i luoedd Cymru.