'Amser symud ymlaen'?
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gastell Penrhyn ger Bangor arddangos gwaith celf newydd i goffáu Streic y Penrhyn mae'r actor John Ogwen yn dweud ei bod yn bryd "symud ymlaen" ar ôl iddo wrthod ymweld â'r castell ers blynyddoedd.
Cafodd y cerflun newydd 15 troedfedd ei gludo mewn gorymdaith i'r castell oedd yn dilyn y llwybr a gymerodd y streicwyr i ddod â'u gorchmynion i'r Arglwydd Penrhyn yn 1900.
Mae nifer o bobl yr ardal wedi gwrthod dod i'r castell, cyn gartref yr Arglwydd Penrhyn, ers Streic Fawr 1900-1903 a greodd rwygiadau dwfn yn y gymuned leol ym Methesda.
Mae'r castell bellach ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Y gwaith diweddaraf gan yr artistiaid Walker a Bromwich yw penllanw prosiect tair blynedd i newid y ffordd mae'r castell yn cael ei gyflwyno i ymwelwyr.
Symbol o anhegwch
Roedd aelodau o deulu John Ogwen yn chwarelwyr yn ystod y streic ac mae wedi dweud yn gyhoeddus yn y gorffennol na fyddai fyth yn ymweld â'r castell.
Fe gollodd ei dad i afiechyd Silicosis ar ôl oes o anadlu llwch y chwarel: "Mae rhywun yn ymwybodol o'r cyfnod hwnnw, o 1878 i fyny i'r cyfnod ar ôl y streic, 1903, mi gafon nhw eu trin yn arswydus.
"Nid gofyn am fwy o arian oeddan nhw mewn gwirionedd ond gofyn am barch, parch fel dynion."
Mae'r castell iddo fo yn "symbol o hen ffordd ffiwdal Lord y Penrhyn dros y chwaral a'r chwarelwyr."
Streic y Penrhyn oedd anghydfod diwydiannol hiraf Prydain.
Ond yn 2016 cafodd nith John Ogwen, Lisa Heledd Jones, ei dewis fel un o'r artistiaid preswyl sydd wedi cyfrannu tuag at y prosiect tair blynedd.
Newidiodd ei feddwl a mynd i'r castell am y tro cyntaf i lansio llyfr am hanes y chwareli.
"Mi ro'n i'n teimlo bod yn rhaid mynd rywbryd a mi es, a dyna fo.
"Dwi'n falch erbyn hyn mod i wedi mynd... a sylweddoli lle mor hyll ydi o," meddai.
Dywed bellach ei fod yn falch fod yr Ymddiriedolaeth "yn siarad yn agored am rôl y castell, ac y gall ymwelwyr glywed o'r diwedd am y digwyddiad hanesyddol pwysig yma.
"Mae'n amser i ni symud ymlaen. Mae'n hen hanes erbyn hyn, ond nid yw'n hanes y dylid ei anghofio," meddai.
'Newid yr hanes'
Dywedodd Lisa wrth Cymru Fyw ei bod yn deall teimladau pobl leol yn y gorffennol ond ei bod yn awyddus i bobl berchnogi'r hanes eu hunain rŵan.
"Mae yne deimlad fod yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn dathlu yr hen deulu fyny at rwan. Felly mae mynd yno yn gam yn ôl i bobl," meddai.
"Dwi'n dallt o lle mae hynny'n dod. Ond 'neith o ddim newid os nag yden ni yne yn d'eud yr hanes ein hunain."
Yn ôl Lisa, roedd ei hewythr yn hapus ei bod hi wedi bod yn rhan o brosiect y castell am ei fod yn "gallu gweld mai be o'n i'n trio 'neud oedd dod â'r straeon yma i fewn i'r castell, a'r broblem sydd ganddo fo efo'r castell ydy'r ffaith ei fod yn symbol o be ddigwyddodd."
"Mae peidio â mynd i'r castell fel cario 'mlaen ryw brotest fach mewn undod gyda'r streicwyr - a dwi'n deall lle 'nath hynne ddechrau - ond dwi yn meddwl ei bod yn amser i newid hynne os fedrwn ni newid yr hanesion sydd yn y castell," ychwanegodd.
Mae Lisa'n croesawu'r newid yn agwedd yr Ymddiriedolaeth tuag at ddweud stori'r streic yn y castell: "I fi dydi o ddim am ddathlu moethusrwydd a phobl gyfoethog a pha mor foethus oedd y carpedi," meddai "mae hynny'n rhan o'r ethos oedd gennyn nhw ers talwm am wrthrychau...
"Ond mae hynny'n newid rŵan ac mae'n newid tuag at straeon a hanes ac nid adrodd un fersiwn yn unig."