Aelod Seneddol yn gofyn i etholwyr ddewis deddf newydd
- Cyhoeddwyd
Mae AS y Rhondda wedi dweud y bydd yn gadael i'w etholwyr ddewis pa ddeddf bosib y bydd yn cyflwyno gerbron Tŷ'r Cyffredin.
Enillodd Chris Bryant bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin i gael yr hawl i gyflwyno ei fesur ei hun, ac mae siawns y bydd y mesur yn dod yn gyfraith.
Ymhlith y chwe syniad mae wedi'u cyflwyno mae partneriaethau sifil ar gyfer cyplau rhyw cymysg, cosbau llymach am ymosodiadau ar y gwasanaethau brys, a ffrwyno ar hysbysebu bwyd afiach.
"Rwyf am i fy etholwyr benderfynu ar fy rhan," meddai Mr Bryant.
Ymddiddori
Fe gyhoeddodd yr AS Llafur ei restr fer yn Ysgol Gyfun Cymer ddydd Iau, fel ffordd o gael pobl ifanc i ymddiddori yn y broses wleidyddol.
Y chwe mesur posib mae wedi eu cynnig yw:
Mesur Cydraddoldeb Priodas - caniatáu partneriaethau sifil i gyplau o ryw cymysg, i gynnwys enw mamau ar dystysgrifau priodas, a'r defnydd o symbolau crefyddol mewn priodasau sifil;
Mesur Ailyswirio (cysylltiedig ag ymosodiadau terfysgol) - ymestyn y cynllun presennol sy'n talu iawndal i'r rhai sydd wedi dioddef yn ariannol oherwydd ymosodiadau terfysgol;
Mesur Troseddu - gwneud hi'n drosedd ymosod ar weithwyr y gwasanaethau brys;
Mesur Tŷ'r Arglwyddi - cael gwared â'r 92 Arglwydd sydd wedi etifeddu eu teitl;
Mesur Bwyd (yn ymwneud â hysbysebu a labelu) - cyfyngu ar hysbysebu bwydydd braster a siwgr uchel nes wedi 21:00, a sicrhau labeli o liw arbennig i nodi cynnwys bwyd wedi'i bacio;
Mesur Teuluoedd Ffoaduriaid - caniatáu ailuno teuluoedd ffoaduriaid drwy wneud hi'n haws i unrhyw aelod o deulu ffoaduriaid i fod yn gwmni iddynt, a hefyd rhoi'r hawl i blant ffoaduriaid gael eu hailuno gyda'u rhieni.
"Mae 'na gannoedd o bethau y byddwn yn dymuno i'w newid ond mae'n rhaid i mi ddewis un peth," meddai Mr Bryant.
"Be' dwi wedi'i ddweud yw mod i am i'm hetholwyr i fy helpu i ddod i benderfyniad.
"Mi fyddaf yn rhoi'r dewisiadau ar fy ngwefan ac yna fe fydd pobl yn gallu dewis - rwy'n addo y byddaf naill ai yn cyflwyno'r dewis cyntaf neu'r ail."