Galw am ddiogelu swyddi astudiaethau Celtaidd Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
swyddi prifysgolFfynhonnell y llun, Google

Mae yna alw ar Brifysgol Aberystwyth i beidio â chael gwared â swyddi o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y brifysgol i beidio â dileu tair swydd, oherwydd y goblygiadau ar ddyfodol adain astudiaethau Celtaidd y brifysgol.

Dywedodd cadeirydd y gymdeithas bod yr adran yn "hollbwysig o ran statws y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill".

Gwadu bod perygl i ddyfodol yr adran mae'r brifysgol, gan ddweud ei fod "yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth".

'Diogelu diamod'

Mewn llythyr, mae Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gofyn i'r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure ystyried pwysigrwydd yr adran yng Nghymru ac ar lefel ryngwladol.

Dywedodd: "Mae sefydliadau megis Adran y Gymraeg Aberystwyth yn hollbwysig o ran statws y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill yn llygaid darpar fyfyrwyr, ysgolion a rhieni.

"Yn ogystal â hyn, mae ar Brifysgol Aberystwyth y dyletswydd i hyrwyddo'r Gymraeg ac addysg sy'n benodol i Gymru a byddai'r toriadau arfaethedig yn gwbl groes i'r genhadaeth hon a gynhwysir yn Siarter y Brifysgol.

"Mae'r bwriad hwn yn peryglu dyfodol astudiaethau Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

"Credwn y dylai pynciau fel y rhain gael eu diogelu yn ddiamod a bod y fath doriadau yn bygwth dyfodol sector addysg uwch yng Nghymru yn gyffredinol."

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i fynegi pryder fod y "brifysgol yn cefnu ar ei dyletswyddau i bobl Cymru a'i threftadaeth Gymraeg".

'Rhan annatod'

Fodd bynnag, mae'r brifysgol yn mynnu nad oes perygl i ddyfodol yr adran.

Dywedodd yr Is-Ganghellor: "Mae'r awgrym bod dyfodol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y fantol yn gwbl gamarweiniol.

"Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau.

"Er ein bod ni fel eraill yn y sector yn wynebu heriau ariannol, rydym yn benderfynol o barhau i gynnig y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel rhan bwysig o'n darpariaeth."