Adroddiad: Iechyd dannedd plant dan 5 yn gwella

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, PA

Mae cyfran y plant pump oed sydd â dannedd wedi pydru yng Nghymru yn parhau i ddisgyn, medd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl y gwaith ymchwil, iechyd dannedd plant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd wedi gwella fwyaf yn y degawd ddiwethaf.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud ei fod "yn falch o weld y cynnydd".

Ond nid da lle gellir gwell yn ôl y Prif Swyddog Deintyddol, Dr Colette Bridgeman.

Gostyngiad mewn pydredd

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar arolwg o tua 8,000 o blant pump oed, mewn dros 500 o ysgolion yng Nghymru yn 2015-16.

Yn 2007-08, roedd dannedd tua 14 plentyn o ddosbarth o 30 (47.6%) yn pydru, gyda 4.2 dant ar gyfartaledd yn cael eu heffeithio.

Ond erbyn y llynedd, roedd hyn wedi gostwng i 10 plentyn o ddosbarth o 30 (34.2%), sef 3.6 dant ar gyfartaledd.

Dim ond Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf oedd heb weld lleihad yn nifer y plant yr oed yma oedd gyda phydredd, yn ôl yr adroddiad.

Mae'n nodi bod lefel iechyd dannedd plant Cymru o bob cefndir yn parhau i wella, ond bod plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig wedi gweld y cynnydd mwyaf, 15% yn llai o achosion o bydredd mewn dannedd.

Yn 2009 cafodd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cynllun Gwên, ei chyflwyno, gan annog plant i lanhau eu dannedd a darparu cyfarpar gofal dannedd.

Lle i wella

Dywed yr adroddiad, er y gwelliannau mawr dros y naw mlynedd diwethaf, mae yma le i wneud rhagor o welliannau i'r traean o blant sy'n dal â dannedd wedi pydru.

Yn ôl Dr Bridgeman, fel arfer fe fyddai hanner y pydredd sydd gan blentyn pump oed wedi bod yn amlwg pan oedden nhw'n dair oed, felly bod y Llywodraeth yn "ail-ffocysu" y rhaglen Cynllun Gwên ar blant bach hyd at bump.

Dywedodd Vaughan Gething: "Dwi'n falch o weld y cynnydd sy'n parhau i wella iechyd y geg ymhlith plant.

"Mae'n glir bod y rhaglen Cynllun Gwên yn gwneud gwahaniaeth go iawn i wella iechyd y geg ymhlith plant ledled Cymru ond rydyn ni'n gwybod bod angen i ni barhau i wneud y gwelliannau hyn."