Lluniau Gŵyl Arall 2017
- Cyhoeddwyd
Mae 'na brysurdeb mawr yn nhre'r Cofi!. Mae Gŵyl Arall yn cael ei chynnal unwaith eto ar benwythnos 6-9 Gorffennaf. Dyma i chi rai o ddigwyddiadau dydd Gwener a bore Sadwrn trwy lens y ffotograffydd Iolo Penri:


Beth well 'na pheint a chân?

Rhai o ferched glandeg y dre yn mwynhau'r penwythnos

Ar noson boeth o haf be' sydd ei angen yw 'chydig bach o Yr Eira!

Dyma i chi ddau sy'n gwybod be' 'di be' yn y sîn roc Gymraeg. Michael Aaron Hughes ac Aaron Pleming, DJs penigamp Radio Ysbyty Gwynedd wedi eu plesio gyda Yr Eira

Wedi dyfalu 'rioed sut mae rhai o diddanwyr poblogaidd Cymru yn ymlacio? Mae Cymru Fyw wedi cael llun prin o Mari Gwilym a Bryn Fôn oddiar y llwyfan!

Pan mae Elinor Bennett yn y llun dydy'r delyn ddim yn bell!

Os mêts, mêts!

Mae hyd yn oed Lloyd George yn mwynhau'r arlwy gerddorol!

Mae 'na rywbeth yma i bawb o bob oed

Dewch am fordaith efo'r Cowbois. Dwi'm yn meddwl bod 'na borthladd yn Botwnnog!

Mae o wedi dod yn bell o Memphis i gyfarfod ei arwr, Dewi Prysor. Oes na debygrwydd yna dwedwch?

Elidir Glyn a'i gitâr

'Da ni isio bwyd rŵan Dave! Digon o sôs, dim nionyn...diolch!

Joio fore Sadwrn yn sesiwn Alphaprint

Beth Celyn un o'r artistiaid fu'n perfformio ddydd Sadwrn

Ga'i help llaw plîs!

Tre'r Cofis dan ei sang