Diwedd cyfnod yn Ganllwyd
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwedd cyfnod ym mhentre' Ganllwyd ger Dolgellau. Ar ddiwedd y tymor academaidd, bydd yr ysgol leol yn cau ei drysau am y tro olaf.
Daeth nifer o gyn-ddisgyblion ynghyd i'r ysgol ar brynhawn Sadwrn 08 Gorffennaf i hel atgofion.
Cafodd ysgol y Ganllwyd ei hagor yn 1905 ac mae wedi cynnig addysg i gannoedd o blant yr ardal dros y blynyddoedd. Erbyn hyn rhyw ugain o blant sydd yn yr ysgol.
Mae'r ysgol yn cau wrth i gyngor Gwynedd ad-drefnu addysg yn yr ardal. Mi fydd pedair ysgol yn cau ac mi fydd y ddarpariaeth newydd o fis Medi yn cael ei chynnig ar bum safle cynradd ac un safle uwchradd yn y dalgylch.
Mae bron i bedair miliwn a hanner o bunnau yn cael ei wario i wella'r adnoddau.
O fis Medi ymlaen mi fydd plant yr ysgol yn cael eu haddysg yn y pentref agosaf sef Llanelltyd, un o'r pum safle cynradd fydd yn rhan o ysgol Bro Idris.