Llwyddiant a thorri record yn Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
LlangollenFfynhonnell y llun, thinkdewinter
Disgrifiad o’r llun,

Côr The Aeolians o Brifysgol Oakwood, Alabama yw Côr y Byd 2017

Wrth i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddod i ben mae'r trefnwyr yn dweud ei bod wedi bod yn eisteddfod lwyddiannus ac hefyd credir bod record byd wedi ei thorri.

Bu 70fed Eisteddfod Rynglwadol Llangollen yn hynod lwyddianus, medd y Cyfarwyddwr Cerdd Eilir Owen Griffiths, wrth i'w gyfnod ef wrth y llyw ddod i ben.

Meddai: "Roedd tasg y beirniaid o ddewis Côr y Byd yn dipyn o dasg ac hefyd roedd dewis y dawnswyr gorau yn anodd.

Ffynhonnell y llun, thinkdewinter
Disgrifiad o’r llun,

Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen 2017 yn rhannu eu gorfoledd

"Roedd hi'n brofiad hynod o emosiynol gwylio'r perfformiadau - pob un yn arddangos ymrwymiad ac angerdd ac wrth gwrs misoedd o waith caled yn paratoi at yr Eisteddfod Ryngwladol."

Côr Ieuenctid The Aeolians o Brifysgol Oakwood, Alabama, enillodd wobr Côr y Byd ac wrth iddynt gael gwybod mai nhw oedd yr enillwyr fe ruthront i'r llwyfan i rannu eu llawenydd a thynnu lluniau.

Ym mhrif gystadleuaeth y dawnswyr, Dawnswyr Gwerin Loughgiel o Ogledd Iwerddon ddaeth i'r brig gan gipio teitl Dawnswyr y Byd a thlws Lucille Armstrong.

Ffynhonnell y llun, thinkdewinter
Disgrifiad o’r llun,

Dawnswyr Gwerin Loughgiel o Ogledd Iwerddon enillodd y brif wobr i'r dawnswyr

Y gred yw bod record hefyd wedi ei thorri wrth i 89 o denoriaid ddod at ei gilydd i ganu'r gân Nessun Dorma - cân ddaeth yn enwog ar ôl cael ei pherfformio gan Pavarotti yng Nghwpan y Byd yr Eidal yn 1990.

Roedd gan y diweddar Luciano Pavarotti gysylltiad agos â Llangollen gan iddo gystadlu yn yr eisteddfod yn 1955 a pherfformio ar y llwyfan yn 1995.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Pavarotti i Langollen i gystadlu yn 1955 ac i berfformio yn 1995

Doedd y perfformiad o'r 89 tenor ddydd Sadwrn ddim wedi'i drefnu ond yn annisgwyl daeth y tenoriaid at ei gilydd - rhai yn aelodau o gorau ar draws y byd ac eraill yn rhan o'r gynulleidfa.

Ffynhonnell y llun, thinkdewinter
Disgrifiad o’r llun,

John Eifion, arweinydd Côr Y Brythoniaid, yn arwain y tenoriaid

Cawsabt eu harwain gan John Eifion, arweinydd Côr Y Brythoniaid.

Roedd Côr Y Brythoniaid yn ail yng nghystadleuaeth y corau meibion. Roedd yna hefyd lwyddiant i Côr Glanaethwy wrth iddynt ennill cystadleuaeth y corau agored. Yn ogystal, enillodd Cywair y gystadleuaeth i gorau cymysg, a Cai Fôn Davies - disgybl yn Ysgol Tryfan, Bangor - a enillodd yr unawd canu gwerin.

Côr o ffoaduriaid

Ddydd Sadwrn roedd croeso cynnes iawn i gôr o ffoaduriaid yn Llangollen, sef Côr Dinasyddion y Byd.

Mae'r côr yn cynnwys ffoaduriaid o bymtheg o wledydd lle mae rhyfel wedi eu gorfodi i ffoi - yn eu plith mae gwledydd Syria, Irac, Affganistan a Sudan. Mae pob un o'r ffoaduriaid bellach yn byw yn Llundain.

Yr Arglwydd Roberts o Landudno oedd un o'r bobl allweddol i ffurfio'r côr o dan arweiniad Becky Dell, sydd yn rhedeg ysgol berffromio yn Llundain. Gan ei fod yn is-lywydd Eisteddfod Llangollen, llwyddodd i'w denu i'r eisteddfod ac yna i oedfa yn Eglwys Sant Ioan yn Llandudno fore Sul.

"Mae eu clywed yn canu 'It's a Wonderful World' yn eironig a gwefreiddiol ond trwy'r canu rydym yn ceisio sefydlu eu lle o fewn cymuned a chymdeithas," meddai'r Arglwydd Roberts.

Nos Sul bydd cyngerdd yn cael ei gynnal i gloi'r Eisteddfod a bydd y Manic Street Preachers ymhlith y perfformwyr.