Dwyn gwerth £60,000 o eiddo Tîm Wiggins yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Tîm Wiggins wedi bod yn siarad am y frwydr feddyliol oedd yn wynebu'r aelodau wrth iddynt nhw gystadlu yn Velothon Cymru ddydd Sul oriau wedi iddynt ganfod fod eu beiciau ac offer sbâr wedi cael eu dwyn.
Amcangyfrifir bellach fod cost y pedwar beic a'r olwynion a gafodd eu dwyn oddeutu £60,000.
Mewn cyfweliad â'r BBC dywedodd y peirannydd Steve Edwards bod hi'n anodd iawn ar y beicwyr gan bod rhaid iddynt seiclo a gwybod nad oedd beic wrth gefn petai rhywbeth yn digwydd.
"Petai rhywbeth wedi mynd o le, mi fyddai'r ras drosodd iddyn nhw," ychwanegodd.
Darganfu Mr Edwards o Rondda Cynon Taf bod y beiciau a'r offer wedi cael eu dwyn am 07:45 fore Sul ac fe sylwodd bod ffenest gefn y fan wedi malu.
Cafodd y beiciau a'r olwynion sbâr eu dwyn o fan y tîm rhwng 19:30 nos Sadwrn ac 07:45 fore Sul.
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i'r digwyddiad a ddigwyddodd y tu allan i Westy Premier Inn ar Ffordd Pentwyn.
Roedd y tîm yn aros yn y brifddinas nos Sadwrn yn barod ar gyfer ras Velothon Cymru a oedd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ddydd Sul.
Mae neges trydar y tîm yn dweud: "Plis rhannwch y neges er mwyn gweld a all y beics gael eu canfod".
Cafodd Tîm Wiggins ei sefydlu gan y pencampwr Olympaidd Syr Bradley Wiggins yn 2015 er mwyn datblygu seiclwyr ifainc ym Mhrydain.