Ffyrdd Caerdydd a'r ardal wedi cau ar gyfer Velothon Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd nifer o ffyrdd Caerdydd a rhannau eraill o'r de ddwyrain ar gau ddydd Sul wrth i filoedd o seiclwyr gymryd rhan yn Velothon Cymru.
Mae sawl ras yn rhan o'r Velothon ac roedd pob un yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd - ond yn teithio i siroedd Casnewydd, Mynwy, Torfaen a Chaerffili.
Roedd y ras 140 cilomedr (87 milltir) yn cychwyn am 07:00 a'r un 110 cilomedr (68 milltir) yn fuan wedyn tra bod yr un broffesiynol wedi dechrau am 12:45.
Roedd y cyfan yn dipyn o frwydr meddyliol i dîm Wiggins wedi i'w beiciau sbâr a llawer o offer gael eu dwyn,
Roedd trefnwyr y ras wedi gofyn i'r rhai na sy'n cystadlu yn broffesiynol i wisgo rhywbeth melyn i longyfarch Geraint Thomas - y Cymro cyntaf i gipio'r crys melyn yn y Tour de France. Mi allai fod yn gap, sanau, helmed neu yn fand chwys.
Môr o felyn
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Rwy'n siwr y bydd nifer wedi cael eu hysbrydoli gan berfformiad arloesol Geraint Thomas yn y Tour de France ac fe fyddant yn ceisio torri tir newydd eu hunain yn ystod y penwythnos."
Meddai Cyfarwyddwr Velothon Cymru Nigel Russell: "Ry'n am weld môr o felyn ar y cychwyn yn ninas enedigol Geraint Thomas. Roedd llwyddiant Geraint Thomas yn cipio'r crys melyn yn orchest anhygoel - felly beth am i ni ddangos ein gwerthfawrogiad."
Dyma'r trydydd tro i ras y Velothon gael ei chynnal yng Nghymru. Ddwy flynedd yn ôl roedd yna gryn feirniadaeth am gau'r ffyrdd ac roedd hoelion byr wedi amharu ar y ras mewn mannau ond llynedd doedd na ddim cwyno am y trefniadau.