Geraint Thomas allan o'r Tour de France wedi damwain

  • Cyhoeddwyd
Chris Froome a Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas (dde) a Chris Froome (chwith) oedd yn arwain y Tour cyn y ddamwain ddydd Sul

Mae'r Cymro cyntaf i wisgo'r crys melyn yn y Tour de France wedi cael ei orfodi i adael y ras wedi iddo gael damwain yng nghymal naw.

Fe ddisgynnodd Geraint Thomas o dîm Sky oddi ar ei feic wrth ddod lawr disgyniad serth ddydd Sul.

Yn dilyn yr wythfed cymal, roedd Thomas yn parhau i fod yn yr ail safle.

Fe dorrodd Thomas bont ei ysgwydd yn y digwyddiad ar Col de la Biche.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Thomas yw'r cyntaf o Gymru i wisgo'r crys melyn

Thomas enillodd gymal cyntaf y Tour De France eleni ac fe gadwodd y crys melyn tan i Chris Froome - hefyd o Sky - ei gipio oddi arno ar ôl cymal pump.

Cwymp dydd Sul oedd y pumed i Thomas yn y Tour - fe gwympodd e hefyd yn yr ail gymal ac yng nghymalau pedwar ac wyth.

Fe gafodd e ddamwain arall ym mis Mai yn y Giro d'Italia a gorfod rhoi gorau i'r ras.

Bydd ei absenoldeb yn ergyd i Froome sy'n ceisio ennill ei drydedd fuddugoliaeth o'r bron yn y Tour a'i bedwerydd teitl.

Ddydd Sul yn Velothon Cymru yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, roedd 'na anogaeth i seiclwyr wisgo lliw melyn i gydnabod camp Thomas i fod y Cymro cyntaf i wisgo'r crys melyn.