Heddlu'n ymchwilio ar ôl darganfod naw ystlum wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Flint dead batsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr ystlumod a gafodd eu darganfod yn farw yn Sir y Fflint

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i naw o ystlumod gael eu darganfod yn farw mewn tŷ yn Sir y Fflint.

Mae ystlumod yn famaliaid sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru bod eu tîm troseddau cefn gwlad yn ymchwilio i adroddiadau fod gwaith ar adeilad wedi tarfu ar y creaduriaid.

Bydd archwiliadau yn cael eu cynnal ar gyrff yr ystlumod.

Dywedodd Rob Taylor o Heddlu'r Gogledd fod "angen atgoffa aelodau o'r cyhoedd bod holl ystlumod Prydain yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, a chyn bod unrhyw waith yn digwydd ar adeilad ble mae 'na arwyddion o ystlumod, rhaid i berchennog sicrhau arolwg gan ecolegydd".