Ramsey i gymryd yr awenau wedi i Gaerdydd ddiswyddo Riza

Aaron Ramsey sydd nawr â'r dasg o geisio cadw Caerdydd yn Y Bencampwriaeth
- Cyhoeddwyd
Capten Cymru Aaron Ramsey fydd rheolwr Caerdydd am weddill y tymor, wedi i'r Adar Gleision ddiswyddo Omer Riza.
Daw wedi i Gaerdydd gael eu trechu 2-0 yn Sheffield United ddydd Gwener, gan olygu eu bod yn parhau yn safleoedd y cwymp yn y Bencampwriaeth.
Bydd Ramsey, 34, yn cymryd yr awenau am y tro cyntaf yn y gêm yn erbyn Rhydychen yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Llun.
Fe fydd yn cael ei gefnogi gan reolwr tîm dan-19 Cymru, Chris Gunter, a'r chwaraewr canol cae Joe Ralls.
Ond ni fydd modd iddo chwarae rhan ar y cae yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, wedi iddo gael llawdriniaeth ar anaf i'w goes fis diwethaf.
Pum pwynt yn gwahanu pum tîm
Tair gêm sydd gan Gaerdydd i achub eu hunain a chadw eu lle yn y Bencampwriaeth ar gyfer y tymor nesaf - yn erbyn Rhydychen, West Bromwich Albion a Norwich.
Ar hyn o bryd maen nhw yn y 23ain safle - ail o waelod y tabl, gyda thri chlwb yn disgyn i Adran Un.
Ond mae hi'n dynn iawn tua gwaelodion y tabl, gyda phum pwynt yn unig yn gwahanu'r pum tîm ar y gwaelod.
Rhydychen sydd yn y 19eg safle - chweched o'r gwaelod - ac felly mae'r gêm ddydd Llun yn un enfawr i'r Adar Gleision.

Cytundeb tan ddiwedd y tymor hwn oedd gan Omer Riza
Does gan Ramsey ddim profiad fel rheolwr, ond mae rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi awgrymu y gallai weithio ar lefel uchel wedi i'w yrfa ddod i ben fel chwaraewr.
Ramsey fydd y trydydd dyn i arwain Caerdydd eleni.
Erol Bulut oedd wrth y llyw ar ddechrau'r tymor, ond cafodd ei ddiswyddo wedi chwe gêm.
Cafodd Riza ei wneud yn rheolwr dros dro i ddechrau, cyn derbyn cytundeb ym mis Rhagfyr tan ddiwedd y tymor.
Ond mae wedi dod dan bwysau cynyddol, gyda Chaerdydd yn wynebu posibilrwydd gwirioneddol o ddisgyn o'r Bencampwriaeth.
Wedi'r golled yn erbyn Sheffield United ddydd Gwener, Ramsey sydd nawr â'r dasg o geisio cadw Caerdydd yn y gynghrair.
Ef oedd chwaraewr ieuengaf Caerdydd erioed yn 2007, gan sicrhau ei le yn y tîm cyntaf ag yntau ond yn 16 oed.
Wedi cyfnodau parhaol gydag Arsenal, Juventus a Nice, fe ddychwelodd i Gaerdydd yn 2023, ond mae ei ddylanwad wedi cael ei gyfyngu gan anafiadau.
'Amseriad od, ond all Riza ddim dadlau'
Yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts bod yr "amseriad yn eitha' od", o ystyried mai dim ond tair gêm o'r tymor sydd i fynd.
"Ond all o [Riza] ddim dadlau - mae o wedi cael digon o amser. A d'eud y gwir, dio'm yn edrych fel rheolwr sy'n mynd i droi petha' o gwmpas.
"Mae'n benderfyniad dewr gan y perchnogion, yn sicr.
"Mae'n un anodd i Ramsey - 'da chi'n gofyn lot o berson heb unrhyw fath o brofiad, ond mi allai hi fod yn masterstoke gan y clwb i roi'r swydd iddo fo.
"Dwi'n siŵr y caiff o ymateb gan y chwaraewyr. Oes ganddo fo'r amser? Dyna'r cwestiwn mawr."