Heddlu: Plant mor ifanc ag wyth oed yn 'secstio'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yng Nghymru wedi ymchwilio i achosion o blant mor ifanc ag wyth oed yn secstio, yn ôl ffigyrau newydd.
Ers 2013, mae swyddogion o luoedd heddlu'r gogledd a'r de wedi siarad â 166 o bobl ifanc, gan gynnwys 23 o blant dan 12, am anfon delweddau ohonyn nhw'u hunain i eraill.
Dywedodd Ceri Evans o elusen Barnado's fod 'na gysylltiad rhwng yr achosion a defnydd cynyddol o ffonau clyfar a gwefannau cymdeithasol.
Ond ychwanegodd nad oedd y rhan fwyaf o blant yn gwybod eu bod nhw'n gwneud unrhyw beth o'i le.
Anghyfreithlon
Mae hi'n anghyfreithlon i unrhyw un fod â delweddau cignoeth o berson dan 18 oed yn eu meddiant a'u dosbarthu.
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law'r BBC yn dangos fod Heddlu'r De wedi ymchwilio i 87 o bobl dan 17 oed dros y tair blynedd diwethaf.
Roedd hyn yn cynnwys bachgen a merch wyth oed, ond wnaeth yr heddlu ddim mynd â'r mater ymhellach.
Deg oed yw'r oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru a Lloegr.
Yn y gogledd, siaradodd swyddogion â 79 o bobl ifanc, gan gynnwys plant mor ifanc ag 11 a 12 oed.
Wnaeth Heddlu Dyfed Powys na Heddlu Gwent ddim ymateb i'r cais am wybodaeth.
Ymwybodol o'r peryglon
Dywedodd Mr Evans nad yw mwyafrif pobl ifanc Cymru yn secstio ond dylai'r awdurdodau sicrhau fod plant yn ymwybodol o beryglon eu gweithredoedd.
"Dwi'n credu mai rhan o'r rheswm yw fod ffonau clyfar, y cyfryngau cymdeithasol a'r we nawr yn ffordd o fyw i blant a phobl ifanc, a deall, wrth i'r technolegau yma ddatblygu, y bydd ymddygiad fel hyn yn cynyddu.
"Rhan o hyn yw addysgu plant. Dwi'n credu mai rhan o hyn yw'r ffaith nad yw plant yn deall canlyniadau rhannu gwybodaeth neu ddelweddau personol drwy eu ffonau clyfar."