Awdur adroddiad morlyn Abertawe yn 'parhau'n obeithiol'
- Cyhoeddwyd
Mae awdur yr adolygiad annibynnol i forlyn ynni llanw Bae Abertawe wedi dweud ei fod yn parhau'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi'r cynllun.
Mae'n union chwe mis ers i'r cyn-weinidog ynni Charles Hendry gyhoeddi ei adroddiad, oedd yn argymell fod adeiladu'r morlyn yn benderfyniad "na fyddai modd ei ddifaru".
Dywedodd Mr Hendry wrth BBC Cymru bod y gefnogaeth drawsbleidiol amlwg i'r cynllun wedi codi ei galon.
Ond dyw Llywodraeth y DU dal heb ymateb yn ffurfiol i'w adroddiad.
'Ystyried yn ofalus'
Yr wythnos hon, fe rybuddiodd cwmnïau sy'n buddsoddi yn y cynllun gwerth £1.3bn na fyddan nhw'n parhau i ariannu'r prosiect os na ddaw cyhoeddiad gan y llywodraeth cyn hir.
Er bod gweinidogion eto i gadarnhau eu bwriad, mae Charles Hendry yn dadlau bod eu negeseuon hyd yma wedi bod yn "gyson".
"Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n ystyried y peth yn ofalus, ond mae'r etholiad a'r cyfnod purdah wedi achosi oedi yn y broses," meddai.
"Ond nawr gyda Greg Clark yn ôl fel yr Ysgrifennydd Busnes dwi'n obeithiol y bydd 'na ateb pendant cyn hir."
Mae'r cynllun ar gyfer morlyn 320MW ym Mae Abertawe, gan gynnwys wal garreg 9.5km o hyd ac 16 o dyrbinau, yn cael ei ddatblygu gan Tidal Lagoon Power o Gaerloyw.
Dywedodd AS Ceidwadol Caerloyw, Richard Graham, sydd hefyd yn gadeirydd grŵp seneddol ar ynni morol, ei bod hi'n gyfnod "anodd" i'r cwmni.
"Y risg yw bod y pobl sydd ag arbenigedd a gwybodaeth ddwfn yn gadael, achos maen nhw'n beiriannwyr sydd yn werthfawr i nifer o gyflogwyr posib eraill," meddai wrth BBC Cymru.
Ychwanegodd ei fod wedi cael "trafodaeth dda" â Mr Clarke, a bod yr Ysgrifennydd Busnes wedi cytuno y dylai "penderfyniad gael ei wneu cyn gynted â phosib".
"Os ydyn ni eisiau cael llywodraeth sydd â strategaeth ddiwydiannol, sy'n mynd i wneud pethau arloesol, dyma'r prosiect, dyma'r amser - ewch amdani."
Hanes hir
Cafodd y prosiect ei gynnwys ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2015 cyn derbyn caniatâd cynllunio gan yr Ysgrifennydd Ynni ar y pryd, Amber Rudd.
Ond pylu wnaeth y gefnogaeth gan weinidogion wrth i drafodaethau barhau ynglŷn â phris yr ynni fyddai'n cael ei gynhyrchu o'r safle.
Mae cynnig diweddara' TLP yn gofyn i'r llywodraeth warantu pris o £89.90 am bob megawat awr dros 90 o flynyddoedd - o'i gymharu â phris o £92.50 yr awr dros 35 o flynyddoedd ar gyfer y pwerdy niwclear newydd yn Hinkley C.
Cafodd adolygiad annibynnol ei gomisiynu ym mis Chwefror 2016 i graffu ar ymarferoldeb morlynnoedd llanw, ac yn ei gasgliadau penderfynodd Charles Hendry bod gwerth mewn bwrw ati â'r prosiect "er lles y genedl".
Roedd y datblygwyr wedi dadlau y byddai'n esgor ar ddiwydiant hollol newydd, a "fflyd" o forlynnoedd mwy o faint, a mwy cost-effeithiol yn gallu cael eu hadeiladu ar draws arfordir y DU maes o law.
Ond dywedodd Richard Howard, Pennaeth Ynni gyda'r felin drafod Policy Exchange wrth BBC Cymru, fod yr oedi wrth ymateb i'r adolygiad yn dangos nad oedd TLP wedi llwyddo i "lunio cynnig i'r llywodraeth oedd yn ddigon atyniadol".
"Yn ystod y cyfnod mae'r prosiect wedi bod yn datblygu ry'n ni wedi gweld pris ynni solar a phwerdai gwynt yn gostwng yn sylweddol, ac mae hynny'n siŵr o barhau," meddai.
"Felly byddai caethiwo'n hunain i forlyn llanw am dros naw deg o flynyddoedd ddim o reidrwydd yn opsiwn call."
'Cyfle prin'
Tra bo'r aros am benderfyniad gan lywodraeth y DU yn parhau, mae arian yn prinhau ar gyfer TLP gyda'u buddsoddwyr bellach yn gwrthod rhyddhau mwy o nawdd, yn ôl adroddiadau yn y Financial Times.
Dywedodd David Clubb, Cyfarwyddwr Renewable UK Cymru ei fod yn pryderu y byddai buddsoddiad preifat sydd "wir ei eisiau" yn ne Cymru yn diflannu.
"Yn amlwg mae gan bob prosiect mawr risgiau - ac mae'n iawn fod y llywodraeth yn ystyried y rheiny," meddai.
"Ond roedd Adroddiad Hendry yn astudiaeth eang a chynhwysfawr iawn o'r cynllun ac fe ddaeth e i'r casgliad bod hwn yn opsiwn na fyddai neb yn ei ddifaru.
"Felly ein neges ni i'r llywodraeth yw gweithredwch nawr - dyw cyfleoedd fel hyn ddim yn dod yn aml."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol llywodraeth y DU: "Mae'r llywodraeth yn ystyried yr argymhellion yn Adolygiad Hendry a'r materion sy'n codi o raglen ehangach.
"Mae angen amser arnom ni i asesu gwerth rhaglen o'r fath, a phenderfynu beth yw'r peth gorau i gwsmeriaid ynni'r DU a'r trethdalwyr yn y tymor hir.
"Byddwn ni'n cyhoeddi ein hymateb i Adolygiad Hendry yn y man."
Pryder am bysgod
Mae angen penderfyniad ar ddyfodol y cynllun erbyn yr haf, yn ôl TLP, os yw gwaith adeiladu i gychwyn yn 2019.
Er hynny, mae her arall yn wynebu'r cwmni yng Nghymru, sef bod angen trwydded forol gan y rheoleiddiwr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd CNC ffigyrau yn awgrymu y gallai'r morlyn ladd 21% o'r eog a 25% o'r sewin sy'n mudo i afonydd lleol bob blwyddyn - ffigyrau sydd yn "hollol gamarweiniol" yn ôl TLP.
Maen nhw bellach wedi cyflwyno eu "tystiolaeth derfynol" ynglŷn ag effaith debygol y datblygiad ar yr amgylchedd morol, ar ôl cytuno ar ffordd newydd o fesur a phroffwydo unrhyw ddifrod gyda CNC.
Dywedodd Andy Schofield, Pennaeth Pysgodfeydd TLP fod y gwaith wedi bod yn "arbennig o gymhleth" gan fod hwn yn gynllun newydd, ac nad oes llawer o ymchwil wedi'i wneud yn barod am ymddygiad pysgod ym Môr Hafren.
"Mae'r casgliadau ry'n ni nawr yn eu cyflwyno yn dangos y bydd y lagŵn yn cael effaith bychan iawn ar bysgod," meddai.
Bydd CNC nawr yn cynnal ymgynghoriad o'r newydd ar y drwydded, ar ôl derbyn y dystiolaeth newydd gan TLP.
Dywedodd Ceri Davies, Uwch Reolwr CNC ar Drwyddedu: "Ry'n ni'n cefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy sy'n gynaliadwy. Y datblygiad yma fyddai'r cynta' yn y byd, ac mae'r dechnoleg sydd ynghlwm â hynny yn golygu bod penderfynu ar y drwydded forol yn gymhleth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2017